Toglo gwelededd dewislen symudol

Diwrnod cyngor ar gostau byw yn Llyfrgell Ystradgynlais

Thermostat

6 Hydref 2022

Thermostat
Mae diwrnod cyngor ar gostau byw i'w gynnal yn un o lyfrgelloedd de Powys wythnos nesaf, yn ôl y cyngor sir.

Bydd Llyfrgell Ystradgynlais yn cynnal y diwrnod cyngor ddydd Iau 13 Hydref lle bydd trigolion sy'n wynebu caledi costau byw yn gallu derbyn cyngor a chymorth.

Bydd y diwrnod yn dechrau am 11am ac yn gorffen am 4pm.  Trefnwyd y digwyddiad gan Wasanaethau Diwylliannol Cyngor Sir Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, a bydd yn gyfle i bobl gysylltu â chynrychiolwyr nifer fawr o sefydliadau sy'n gallu cynnig cymorth ymarferol dros y cyfnod anodd hwn.

Bydd staff y cyngor ac asiantaethau eraill wrth law i helpu unrhyw un sy'n poeni am brisiau'n codi, a bydd cyngor ar gyllidebu, arbed ynni, derbyn budd-daliadau a mwy.

Y sefydliadau fydd yno yw:

  • Fferyllfeydd cymunedol
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Heddlu Dyfed Powys
  • NEST (Ymddiriedolaeth Arbed Ynni)
  • Pobl
  • Cyngor ar Bopeth Powys
  • Adran Tai Cyngor Sir Powys
  • Tîm Cyngor Ariannol - Cyngor Sir Powys
  • Cymru Gynnes
  • Banc bwyd Ystradgynlais
  • Breuddwydion Cymunedol Ystradgynlais

Meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Rwy'n falch fod y llyfrgell yn gallu cynnal y digwyddiad pwysig hwn.  Hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau sy'n rhan o'r diwrnod cyngor hwn.  Mae'n ddefnyddiol dros ben cael pawb o dan yr un to i gynnig cyngor ac arweiniad dros yr argyfwng costau byw ac i gefnogi pobl Powys."

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Rwy'n annog pawb yng nghymuned Ystradgynlais sy'n cael pethau'n anodd ar hyn o bryd, i alw heibio'r llyfrgell a chael y cyngor ac arweiniad angenrheidiol."

Os hoffech gysylltu â Llyfrgell Ystradgynlais, mae'r manylion cyswllt i'w gweld yma: https://cy.powys.gov.uk/llyfrgellystradgynlais

I fod yn bartner ac yn rhan o'r digwyddiad, cysylltwch â Nichola Farr: nichola.farr@powys.gov.uk