Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Wythnos Genedlaethol Ailgylchu 2022

Image of an empty toothpaste tube - cym

17 Hydref 2022

Image of an empty toothpaste tube - cym
Unwaith eto, mae Cyngor Sir Powys yn cefnogi Wythnos Ailgylchu genedlaethol flynyddol, a fydd yn cael ei chynnal rhwng 17 a 23 Hydref 2022.

Mae Wythnos Ailgylchu eleni yn gyfle gwych i ni gyd ddyblu ein hymdrechion i ailgylchu mwy a chael yr atebion i'r cwestiynau hynny a allai fod yn ein dal ni nôl rhag gwneud popeth o fewn ein gallu.

Gyda 95% o ddinasyddion Cymru yn ailgylchu'n rheolaidd, d'oes ryfedd ein bod ni yn y drydydd safle o'r gorau yn y byd.  Dros y ddegawd ddiwethaf, mae ailgylchu ym Mhowys wedi cynyddu'n enfawr. Rydym bellach yn ailgylchu dros 66% o'n gwastraff, i fyny o 36.5% yn 2010. Ond os ydym am helpu Cymru i gyrraedd y brig mae angen i ni wneud mwy fyth, fel yr eglura'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach:

"Diolch i bobl Powys, rydym eisoes yn un o'r siroedd sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran ailgylchu, ond  yn aml, mae gan ein hailgylchwyr ymroddedig cwestiynau am beth sy'n gallu cael ei ailgylchu a beth na ellir ei ailgylchu. Mae llawer ohonom yn euog o gymryd siawns wrth roi rhywbeth yn y bin ailgylchu - gan fyw mewn gobaith y bydd yn cael ei ailgylchu, hyd yn oed os ydym yn ansicr a ddylai fod yno ai peidio.

"Ond a all ychwanegu un eitem anghywir yn ein blychau ailgylchu fod mor ddrwg â hynny mewn gwirionedd?  Yn anffodus, gall eitemau na ellir eu hailgylchu (hyd yn oed os ydynt yn debyg i'r rhai sy'n cael eu casglu) halogi'r holl ailgylchu da. Gall hyn olygu bod angen mwy o adnoddau i gael gwared ar yr eitemau na ddylai fod yno neu, mewn achosion eithafol, arwain at y llwyth cyfan o'r lori yn cael ei gwrthod gan y proseswyr ailgylchu. D'oes neb ohonon ni eisiau i hynny ddigwydd".

*****

Mae rhestr lawn o'r hyn y gellir ac na ellir ei ailgylchu o gartref yn ein blychau ailgylchu i'w gael ar-lein, ond yn syml, dyma beth rydyn ni ei eisiau yn eich casgliadau ailgylchu wythnosol:

Cadi Bwyd
Cig a physgod, gan gynnwys esgyrn bychain
Caws
Llysiau a ffrwythau
Plisgyn wyau
Hen fara, cacennau a theisennau
Grawnfwydydd, reis, pasta a ffa
Bagiau te a gwaddodion coffi

Blwch coch
Caniau bwyd a diod glân
Ffoil alwminiwm
Poteli plastig glân (wedi'u golchi, eu gwasgu a'r caeadau wedi'u tynnu i ffwrdd)
Topiau a chaeadau poteli plastig
Topiau a chaeadau metel poteli a jariau
Caniau aerosolau cegin ac ystafell ymolchi
Hambyrddau bwyd plastig glân
Potiau a thybiau glân
Cartonau glân (Tetrapaks)

Blwch glas
Papurau newydd a chylchgronau
Catalogau a chyfeirlyfrau
Post sothach
Papur
Amlenni gwyn
Papur wedi ei rwygo (mewn amlen neu wedi ei lapio mewn papur)
Cerdyn brown (cyn belled â'i fod yn ffitio yn y cynhwysydd)

Blwch Acwa
Poteli a jariau gwydr glân (tynnu caeadau)

*****

Rydym yn deall bod rhai pobl yn poeni am beth sy'n digwydd i eitemau a gasglwyd yn y casgliadau wrth ymyl y ffordd, ond nid yw eich ymdrechion yn ofer. Mae pob eitem sy'n cael ei hailgylchu'n gywir yn cael ei phrosesu a'i hailgylchu. Mae hyd yn oed y sbwriel na ellir ei ailgylchu sy'n cael ei gasglu yn y biniau du ar olwynion yn cael ei anfon at gyfleuster egni o wastraff sy'n cynhyrchu trydan. Gallwch wirio'r trefniadau diweddaraf ar gyfer deunyddiau o ymyl y ffordd ar ein gwefan yma: Beth sy'n digwydd i'r deunydd ailgylchu a'r sbwriel arall ar ôl iddo gael ei gasglu o fin y ffordd?

"Ailgylchu yw'r norm ym Mhowys erbyn hyn ac mae'r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu bob wythnos." Parhaodd y Cynghorydd Charlton. "Drwy weithio'n galed i ddod o hyd i gontractau sy'n sicrhau bod gwastraff y sir yn cael ei ailgylchu, yma yn y DU, a gyda chymorth pobl Powys rydym ar y llwybr iawn ar gyfer helpu i wneud ein rhan i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

"Dylai pob un ohonom ymfalchïo yn ein hymdrechion ailgylchu, ond mae'n rhaid i ni barhau â'n gwaith da. Gadewch i ni barhau i ailgylchu'r eitemau cywir o bob rhan o'r cartref a helpu Powys i barhau i fod yn lle glân, gwyrdd ac ecogyfeillgar i fyw ynddo am genedlaethau i ddod."