Canllaw i Leithder a Chyddwysiad
Beth sy'n achosi cyddwysiad?
Mae cyddwysiad fel arfer yn digwydd yn y gaeaf oherwydd bod yr adeilad yn oer a bod ffenestri'n cael eu hagor yn llai aml felly nid yw aer llaith yn gallu dianc.
A yw'n gadael ei ôl ar waliau ac ati? Os ydy o, nid cyddwysiad yw hwn, ond lleithder. Gallai gael ei achosi gan law yn treiddio drwy ffenestri, neu leithder yn codi oherwydd cwrs gwrthleithder diffygiol neu oherwydd nad oes un yno o gwbl. Cysylltwch â ni fel y gallwn ymchwilio i'r broblem.