Toglo gwelededd dewislen symudol

Canllaw i Leithder a Chyddwysiad

A yw eich lleithder yn cael ei achosi gan gyddwysiad?

Mae tair prif ffordd o fynd i'r afael â'r broblem

1. Atal lleithder rhag cronni

  • Sychwch arwynebau lle mae lleithder yn setlo.
  • Gorchuddiwch sosbenni sy'n berwi wrth goginio.
  • Wrth goginio, ymolchi neu olchi a sychu dillad, caewch ddrysau'r gegin a'r ystafell ymolchi i atal stêm rhag mynd i mewn i ystafelloedd oerach, hyd yn oed ar ôl i chi orffen.
  • Gorchuddiwch unrhyw danciau pysgod i atal y dŵr rhag cyddwyso i'r aer.
  • Sychwch ddillad y tu allan lle bo modd.
  • Peidiwch â hongian dillad wedi'u golchi dros reiddiaduron.

2. Sut i awyru'r cartref

  • Wrth goginio neu olchi, agorwch ffenestri neu defnyddiwch ffan echdynnu.
  • Lle bo angen sychu dillad y tu mewn, gwnewch hynny mewn ystafell fechan gyda'r ffenestri ar agor.
  • Agorwch y ffenestri am ychydig bob dydd neu defnyddiwch yr holltau awyru.
  • Peidiwch â rhwystro holltau awyru, mae hyn hefyd yn bwysig o ran offer nwy a gwresogi gan fod arnynt angen cyflenwad o ocsigen i weithio'n effeithiol a chaniatáu i nwyon, fel carbon monocsid, ddianc.
  • Gadewch i aer gylchredeg o amgylch dodrefn ac mewn cypyrddau, gallwch wneud hyn trwy sicrhau nad yw cypyrddau a wardrobs yn cael eu gorlenwi a bod lle rhwng y dodrefn a'r wal.

3. Cadwch eich cartref yn gynnes

  • Bydd atal drafftiau yn cadw'ch cartref yn gynhesach ac yn helpu i leihau biliau tanwydd. Pan fydd y tŷ i gyd yn gynhesach, mae cyddwysiad yn llai tebygol o ffurfio.
  • Bydd insiwleiddio eich lofft a'ch waliau yn helpu. Os nad yw'ch rhai chi wedi eu hinswleiddio, cysylltwch â ni am fanylion gwaith sydd wedi'i gynllunio ar gyfer eich ardal neu i gael cyngor am effeithlonrwydd ynni. 
  • Cadwch wres isel ymlaen pan fo'r tywydd yn oer neu'n wlyb, mae hyn yn fwy effeithiol na chyfnodau byr o wres uchel.

 

Gofalwch bob amser NAD YDYCH yn

  • Blocio cyfarpar awyru parhaol ee briciau aer neu holltau awyru.
  • Rhwystro simnai yn gyfan gwbl. Yn lle hynny gadewch dwll tua dwy fricsen o ran maint a gosodwch rwyll drosto.
  • Ceisiwch atal drafftiau o ystafelloedd lle mae popty neu wresogydd llosgi tanwydd, er enghraifft, tân nwy.
  • Ataliwch ddrafft o ffenestri yn yr ystafell ymolchi a'r gegin.
  • Peidiwch ag aflonyddu ar lwydni trwy ei frwsio neu ei lanhau â pheiriant sugno llwch. Gallai hyn gynyddu'r risg o broblemau anadlu.