Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Mynd yn WYRDD dros Galan Gaeaf!

Image of some Halloween cakes and biscuits

24 Hydref 2022

Image of some Halloween cakes and biscuits

Mae bron yn noson Galan Gaeaf, ond mae'n adeg i frawychu eich ffrindiau, nid y blaned!  Mae digon o ailgylchu i'w wneud adeg Calan Gaeaf a sawl ffordd y gallwch leihau'r swm arswydus o wastraff sy'n cael ei greu o ddathliadau dychrynllyd.

 

 

Dyma rai awgrymiadau arswydus o dda ar sut i fynd yn wyrdd dros Galaf Gaeaf (ac arbed rhai ceiniogau hefyd):

  • Peidiwch â bod ofn pwmpenni!  Cofiwch dynnu'r cnawd cyn cerfio a'i droi'n rhywbeth blasus.  Mae digon o syniadau am bethau blasus ar wefan Love Food Hate Waste.
  • Byddwch greadigol gyda'ch gwisgoedd brawychus a phrynu rhai ail-law, ailddefnyddio hen wisgoedd neu wneud rhai eich hun o hen ddillad, hen ddarnau o ddefnydd neu sbwriel wedi'i ailgylchu.
  • Defnyddiwch paent wyneb i greu wynebau dychrynllyd, yn hytrach na phrynu masgiau plastig.
  • Gwnewch eich addurniadau parti arswyd eich hun - baneri papur wedi'u clymu i gortyn, lluniau wedi'u lliwio o gorynnod a sgerbydau, gallech hyd yn oed roi cynnig ar wneud eich pwmpenni papier-mache eich hun.
  • Beth am gael gwared ar y llestri parti untro a defnyddio platiau, gwydrau a chyllyll a ffyrc go iawn.
  • Gallwch gynnig danteithion cartref i bobl 'losin neu lanast' megis bisgedi siâp pwmpen - bydd yn newid o'r holl losin ac yn golygu llai o bapur lapio plastig dychrynllyd.
  • Cofiwch ailgylchu gymaint o'ch sbwriel Calan Gaeaf â phosibl, yn arbennig os oes gennych fwyd gwastraff, caniau, plastig a boteli gwydr o'ch partion dychrynllyd - a'u rhoi yn eich bocsys ailgylchu.
  • Er na allwch eu hailgylchu adref, mae modd ailgylchu'r rhan fwyaf o ddeunydd lapio plastig, gan gynnwys deunydd lapio losin, o fannau casglu yn eich archfarchnad leol.  Gallwch eu rhoi at ei gilydd ac ewch â nhw pan fyddwch yn mynd i siopa nesaf.
  • Pan fyddan nhw wedi dod i ben, gallwch roi'r hen bwmpenni ar eich tomen gompost neu eu torri a'u rhoi yn eich cadi bwyd.  Os ydyn nhw'n fawr iawn (ac heb bydru gormod) gallwch eu rhoi ar ben eich cadi bwyd i'w casglu unwaith yn unig gan y criw ar ôl Calan Gaeaf.  Cofiwch dynnu unrhyw ganhwyllau'n gyntaf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Gwyrdd, y Cynghorydd Jackie Charlton: "Mae'r rhan fwyaf o bobl Powys eisoes yn dda am wneud dewisiadau cynaliadwy ac yn ailgylchu bob wythnos.  Ond gallwn ni gyd wneud ychydig yn fwy, yn arbennig dros ddathliadau tymhorol.

"Mae'n haws nawr gwneud ymdrech i fod yn 'fwy gwyrdd' gyda mwy a mwy ohonom yn dewis arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu mwy nag erioed.  Y bonws yw bod y dewisiadau ecogyfeillgar hyn yn dda i'n pocedi ni hefyd, sy'n arbennig o bwysig ar adegau anodd fel hyn."

Am fwy o wybodaeth ar ailgylchu, ewch i: Sut i gael gwared o ailgylchu a sbwriel (cartref)