Toglo gwelededd dewislen symudol

Camgymeriad wedi'i wneud gyda rhai taliadau cymorth tanwydd

A person checking their bank balance online

4 Tachwedd 2022

A person checking their bank balance online
Mae trigolion Powys sydd wedi derbyn e-bost gan y cyngor sir yn gofyn iddyn nhw ddychwelyd taliad Cynllun Cymorth Tanwydd a ddyblygwyd yn cael eu hysbysu nad sgam yw'r negeseuon hyn.

Yn anffodus, trosglwyddwyd taliadau ddwywaith i gyfrifon banc 842 o bobl fis diwethaf, gan olygu eu bod wedi derbyn £400 yn lle £200 trwy Gynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru 2022/23.

Gofynnir i'r rhai sydd wedi derbyn mwy na'r hyn yr oedd ganddynt hawl i'w gael i ddychwelyd y gordaliad ac fe fydd llawer ohonynt eisoes wedi derbyn e-bost am hyn gan y cyngor.

"Mae'n wir ddrwg gennym fod y gwall hwn wedi digwydd gyda'r taliadau costau byw rydym yn eu dosbarthu ar ran Llywodraeth Cymru ond hoffem bwysleisio bod yr e-bost oddi wrthym sy'n gofyn am ddychwelyd y £200 ychwanegol yn ddilys," meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach.

"Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein preswylwyr sy'n dioddef oherwydd yr argyfwng costau byw, ac os ydych chi'n meddwl y gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol, gwnewch gais amdano. Mae hefyd yn bwysig bod unrhyw un sydd wedi derbyn gordaliad yn ei ddychwelyd, gan fod yr arian sydd ar gael yn gyfyngedig ac mae angen i ni sicrhau bod eraill sydd angen y cymorth hwn yn gallu ei gael."

"Os ydych chi byth yn amau a yw'r ohebiaeth oddi wrthym ynghylch cymorth grant yn ddilys, cysylltwch â'n tîm Incwm a Dyfarniadau ar 01597 826345."

Yn anffodus, cafodd yr 842 o daliadau dwbl eu gwneud pan lwythwyd swp o daliadau dwywaith.

Mae staff y cyngor wedi llwyddo i dalu dros £100 miliwn mewn grantiau ers dechrau pandemig Covid 19, ac rydym yn siomedig bod y swp hwn wedi cael ei ddyblygu.  Hyd yn hyn mae tua hanner yr 842 o daliadau dwbl eisoes wedi eu dychwelyd.

Mae'r Cynllun Cymorth Tanwydd ar agor tan 5pm ddydd Mawrth 28 Chwefror 2023, gydag aelwydydd sy'n derbyn ystod o fudd-daliadau yn gymwys: Cynllun Cymorth Tanwydd 2022/23

Efallai y bydd trigolion Powys hefyd yn gallu hawlio £150 ychwanegol drwy Gynllun Cymorth Costau Byw yn ôl Disgresiwn y cyngor: 

Gallwch gael gwybod mwy am gadw'n ddiogel ar-lein ar wefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol:  https://www.ncsc.gov.uk/cyberaware/home a rhoi gwybod am ymdrechion i dwyllo drwy wefan y Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Dwyll a Seiberdroseddu: www.actionfraud.police.uk.