Datblygiadau yn y dyfodol - yn amodol ar gymeradwyaeth
Mae'r Tîm Datblygu Tai yn diweddaru'r dudalen we hon o bryd i'w gilydd gyda datblygiadau preswyl y disgwylir iddynt ddechrau yn y dyfodol agos. Wrth i'r prosiectau fynd rhagddynt, bydd mwy o fanylion a dyluniadau ar gael.
Trawscoed, Llandrinio
Datblygiad preswyl cymysg o gartrefi sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, gradd A, sy'n cynnwys y canlynol:
6 fflat un llofft
4 fflat 2 lofft
5 byngalo 2 lofft
1 byngalo 3 llofft hygyrch i gadeiriau olwyn
4 tŷ 2 lofft
4 tŷ 3 llofft
Dyddiad cychwyn targed: I'w gadarnhau
Tŷ Robert Owen, Park Lane, Y Drenewydd
Datblygiad sy'n cynnwys fflatiau heb lifft, ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf, yn darparu cyfanswm o 32 eiddo un llofft a fydd â sgôr EPC A.
Dyddiad cychwyn targed: I'w gadarnhau



Ael Y Bryn/ Pen Y Bryn, Ystradgynlais
Datblygiad newydd yn cynnwys fflatiau llawr gwaelod a llawr cyntaf, gan ddarparu cyfanswm o 16 eiddo un ystafell wely a fydd â Thystysgrif Perfformiad Ynni cyfradd A.

