Ailddatblygu ac adnewyddu Theatr Brycheiniog
Mae bron i £7 miliwn wedi ei sicrhau ar gyfer tri phrosiect o dan becyn Buddsoddi Canol Trefi Brycheiniog a Sir Faesyfed.
Un o'r prosiectau o dan y pecyn hwn yw ailddatblygu ac adnewyddu Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu.
Bydd ailddatblygu Theatr Brycheiniog, canolfan gelfyddydol strategol bwysig yng nghanol Aberhonddu, yn sicrhau bod y theatr yn hyfyw ac yn gallu gwella a chynnal y gwaith o gyflawni prosiectau celfyddydol, diwylliannol a llesiant i'r gymuned leol ac i ymwelwyr.
Mae wedi'i hadeiladu ger basn y gamlas yng nghanol Aberhonddu, ac yn gwasanaethu'r dref a'r ardal gyfagos, ac wedi'i wreiddio'n gadarn yn y gymuned y mae'n ei gwasanaethu.
Mae'r adeilad yn gofyn am fuddsoddiad er mwyn sicrhau ei hirhoedledd i drigolion ac ymwelwyr.
Mae elfen ariannu punt am bunt y prosiect, sy'n cynnwys adnewyddu'r caffi, y gegin, ardal y bar a'r cyntedd, ar fin cael ei chwblhau (Rhagfyr 2022). Ariannwyd y rhain gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC), Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), Cyngor Tref Aberhonddu, Arnold Clark a Landmarc.