Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae Gwasanaethau Oedolion yn rhoi cynllun parhad busnes ar waith

Image of two people holding hands

16 Rhagfyr 2022

Image of two people holding hands
Mae gwasanaeth Cyngor Sir Powys am roi ei gynllun parhad busnes ar waith fel mesur ataliol, yn ôl cyhoeddiad.

Bydd Gwasanaethau Oedolion y cyngor yn rhoi ei gynllun ar waith gan fod galw mawr ar draws y sector iechyd a gofal, ynghyd â materion recriwtio a chadw a lefelau cynyddol o salwch mewn meysydd allweddol, yn effeithio ar y gwasanaethau a ddarperir.

Bydd y gwasanaeth nawr yn rhoi'r gorau i waith nad yw'n hanfodol er mwyn iddo allu adleoli staff presennol i gyflawni gweithgareddau sy'n hanfodol i fusnes mewn cyfnod pontio llyfn a chynlluniedig.

Mae'r gwasanaeth wedi sefydlu cyfarfodydd dyddiol lle gall fonitro'r sefyllfa a chymryd camau priodol i sicrhau bod gwasanaethau sy'n hanfodol i fusnes yn cael eu cynnal.

Bydd y cyngor yn parhau i flaenoriaethu'r oedolion hynny sydd angen gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol fel mater o frys ond mae'n gofyn i drigolion am eu hamynedd a'u cefnogaeth tra bod y cynllun parhad busnes yn ei le.

Fodd bynnag, os oes unrhyw un yn pryderu am oedolyn ac yn meddwl eu bod mewn perygl, neu os yw sefyllfa rhywun yn anghynaliadwy, dylent gysylltu â'r cyngor ar unwaith ar 0345 602 7050.

Dywedodd Nina Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Dros Dro y cyngor: "Nid ar chwarae bach y cymerwyd y penderfyniad i weithredu'r cynllun parhad busnes ar gyfer Gwasanaethau Oedolion ond mae'n angenrheidiol i gwrdd â'r heriau presennol sy'n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaeth.

"Byddwn yn rhoi'r gorau i waith nad yw'n hanfodol o fewn y gwasanaeth fel y gallwn adleoli'r staff presennol i gwrdd â gweithgareddau sy'n hanfodol i fusnes. Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddibynnu ar gymorth adrannau eraill y cyngor i'n helpu drwy'r cyfnod heriol hwn.

"Byddwn yn adolygu'r sefyllfa ar ôl mis, ond ein nod yw cadw'r cyfnod hwn o barhad busnes mor fyr â phosibl.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ofyn am amynedd ar yr adeg dyngedfennol hon a sicrhau ein holl drigolion y byddwn yn blaenoriaethu'r oedolion hynny sydd angen gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol fel mater o frys."

Os ydych chi neu rywun ry'ch chi'n ei adnabod angen help ymarferol gyda bywyd bob dydd, mae yna sefydliadau a all ddarparu cymorth a chefnogaeth. Ewch i i chwilio am sefydliadau a all helpu i'ch cefnogi.

Mae AskSARA (https://powys.livingmadeeasy.org.uk/language) yn ganllaw hunangymorth ar-lein sy'n rhoi cyngor a gwybodaeth arbenigol am gynhyrchion ac offer ar gyfer oedolion hŷn ac anabl.  Atebwch rai cwestiynau amdanoch chi eich hun a'ch amgylchedd a byddwch yn derbyn adroddiad personol am ddim, gan ddarparu cyngor clir wedi'i deilwra a ysgrifennwyd gan arbenigwyr ar ddulliau i helpu gyda'ch gweithgareddau dyddiol.

Os hoffech gael gwybodaeth neu gyngor am eich lles - neu os ydych chi eisiau gwybod sut y gallwch chi helpu rhywun arall, ewch i wefan Dewis Cymru https://www.dewis.wales/