Toglo gwelededd dewislen symudol

Dweud eich dweud am Gamlas Trefaldwyn

Image of people canoeing on Montgomery Canal

19 Rhagfyr 2022

Image of people canoeing on Montgomery Canal
Mae gan aelodau'r cyhoedd sy'n ymweld â chamlas yng ngogledd Powys gyfle i leisio'u barn am y gamlas cyn i brosiect adfer mawr ddechrau.

Fel rhan o Brosiect Adfer Camlas Trefaldwyn, mae tri arolwg wedi'u lansio i ddarganfod barn gyfredol pobl sy'n ymweld â Chamlas Trefaldwyn.

Mae'r arolygon yn cael eu cynnal gan Glandŵr Cymru, (the Canal & River Trust in Wales) a Chyngor Sir Powys, sy'n darparu'r prosiect uchelgeisiol i adfer ac adfywio rhannau o Gamlas Trefaldwyn. Llwyddodd y ddau sefydliad i sicrhau bron i £14m o Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU ar gyfer y prosiect.

Bydd y tri arolwg sylfaenol yn cael eu cynnal cyn i'r gwaith adfer ddechrau, sef:

Bydd canlyniadau'r arolwg yn helpu'r Ymddiriedolaeth a'r Cyngor i ddeall beth mae pobl yn ei feddwl ar hyn o bryd o Gamlas Trefaldwyn a'r Lanfa, pa mor aml maen nhw'n ymweld â nhw a phwrpas eu hymweliadau. Bydd yr beth yw diben eu hymweliadau. Bydd yr Ymddiriredolaeth a'r Cyngor yn cynnal arolygon eraill wrth i'r prosiect fynd rhagddo ac ar ddiwedd y prosiect.

Meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Mwy Ffyniannus: "Bydd Prosiect Adfer Camlas Trefaldwyn yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at adfer Camlas Trefaldwyn yn ehangach, a mesul cam. Pan fydd hynny wedi'i gwblhau'n llawn, bydd yn darparu buddion economaidd, diwylliannol, lles a hamdden hirdymor i gymunedau lleol.

"Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod yn gofyn am farn y gymuned leol ac ymwelwyr â Chamlas Trefaldwyn a'r Lanfa er mwyn deall eu syniadau cyfredol, pa mor aml y maent yn ymweld â nhw a beth yw dideb eu hymweliad.  Byddwn yn annog trigolion lleol Camlas Trefaldwyn ac ymwelwyr â hi i ddefnyddio'r cyfle hwn i ddatgan eu barn drwy gwblhau'r arolwg hwn."

Dywedodd Jason Leach pennaeth darparu rhaglenni allanol Glandŵr Cymru, (the Canal & River Trust in Wales): "Bydd cam nesaf adfer Camlas Trefaldwyn yn dod â llawer o fanteision i'r gymuned, ond mae'n bwysig ein bod yn deall sut mae pobl leol yn defnyddio'r gamlas a pham maent yn dod i ymweld â hi.

"Gwyddom fod treulio amser ger y dŵr yn llesol i'n hiechyd meddwl a chorfforol, felly mae'n wych bod y cam nesaf hwn o'r prosiect adfer hwn yn mynd yn ei flaen. Mae ein camlesi wedi cael eu hailddyfeisio yn lle i bobl dreulio eu hamser hamdden, dod yn heini, mwynhau'r awyr agored, a theimlo'n iachach, felly dewch am ymweliad."

Bydd yr arolygon yn cau ar 31 Ionawr 2023.

Am fwy o wybodaeth ar  Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ym Mhowys, gan gynnwys Prosiect Adfer Camlas Maldwyn, ewch i Cronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.

Gellir gwneud ymholiadau cyffredinol ynghylch y Gronfa Codi'r Gwastad ym Mhowys, anfonwch e-bost at UKLUF@powys.gov.uk