Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dal i fod amser i ddweud eich dweud am Gamlas Trefaldwyn

Image of people canoeing on Montgomery Canal

17 Ionawr 2023

Image of people canoeing on Montgomery Canal
Mae dal i fod amser i aelodau o'r cyhoedd  sy'n ymweld â chamlas yng ngogledd Powys leisio'u barn am y gamlas cyn i brosiect adfer mawr ddechrau.

Fel rhan o Brosiect Adfer Camlas Trefaldwyn, mae tri arolwg yn cael eu lansio i ddarganfod barn gyfredol pobl sy'n ymweld â Chamlas Trefaldwyn.

Mae'r arolygon yn cael eu cynnal gan Glandŵr Cymru, (the Canal & River Trust in Wales) a Chyngor Sir Powys, sy'n darparu'r prosiect uchelgeisiol i adfer ac adfywio rhannau o Gamlas Trefaldwyn. Llwyddodd y ddau sefydliad i sicrhau bron i £14m o Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU ar gyfer y prosiect.

Bydd y tri arolwg sylfaenol yn cael eu cynnal cyn i'r gwaith adfer ddechrau, sef:

Bydd yr arolygon yn cau ar 31 Ionawr 2023.

Bydd canlyniadau'r arolwg yn helpu'r Ymddiriedolaeth a'r Cyngor i ddeall beth mae pobl yn ei feddwl ar hyn o bryd o Gamlas Trefaldwyn a'r Lanfa, pa mor aml maen nhw'n ymweld â nhw a phwrpas eu hymweliadau. Bydd yr beth yw diben eu hymweliadau. Bydd yr Ymddiriredolaeth a'r Cyngor yn cynnal arolygon eraill wrth i'r prosiect fynd rhagddo ac ar ddiwedd y prosiect.

Meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Mwy Ffyniannus: "Bydd Prosiect Adfer Camlas Trefaldwyn yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at adfer Camlas Trefaldwyn yn ehangach, a mesul cam. Pan fydd hynny wedi'i gwblhau'n llawn, bydd yn darparu buddion economaidd, diwylliannol, lles a hamdden hirdymor i gymunedau lleol.

"Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod yn gofyn am farn y gymuned leol ac ymwelwyr â Chamlas Trefaldwyn a'r Lanfa er mwyn deall eu syniadau cyfredol, pa mor aml y maent yn ymweld â nhw a beth yw dideb eu hymweliad.  Byddwn yn annog trigolion lleol Camlas Trefaldwyn ac ymwelwyr â hi i ddefnyddio'r cyfle hwn i ddatgan eu barn drwy gwblhau'r arolwg hwn."

Dywedodd Jason Leach pennaeth darparu rhaglenni allanol Glandŵr Cymru, (the Canal & River Trust in Wales): "Bydd cam nesaf adfer Camlas Trefaldwyn yn dod â llawer o fanteision i'r gymuned, ond mae'n bwysig ein bod yn deall sut mae pobl leol yn defnyddio'r gamlas a pham maent yn dod i ymweld â hi.

"Gwyddom fod treulio amser ger y dŵr yn llesol i'n hiechyd meddwl a chorfforol, felly mae'n wych bod y cam nesaf hwn o'r prosiect adfer hwn yn mynd yn ei flaen. Mae ein camlesi wedi cael eu hailddyfeisio yn lle i bobl dreulio eu hamser hamdden, dod yn heini, mwynhau'r awyr agored, a theimlo'n iachach, felly dewch am ymweliad."

Am fwy o wybodaeth ar Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ym Mhowys, gan gynnwys Prosiect Adfer Camlas Maldwyn, ewch i Cronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU

Gellir gwneud ymholiadau cyffredinol ynghylch y Gronfa Codi'r Gwastad ym Mhowys, anfonwch e-bost at UKLUF@powys.gov.uk