Toglo gwelededd dewislen symudol

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (DA) i gyflymu talu grantiau costau byw

A woman holding a baby while adjusting heating controls

20 Ionawr 2023

A woman holding a baby while adjusting heating controls
Mae datblygwyr sy'n gweithio i Gyngor Sir Powys yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (DA) i sicrhau fod y sawl sydd angen cymorth costau byw yn ei dderbyn mor gyflym â phosibl.

Maent wedi bod yn mireinio'r broses dros y 12 mis diwethaf, fel rhan o Raglen Powys Ddigidol, a bellach maent yn credu iddyn nhw greu un o'r systemau cyflymaf a rhwyddaf ei defnyddio mewn llywodraeth leol ledled y DU.

Mae'n cael ei defnyddio i roi cymeradwyaeth awtomatig i lawer o geisiadau Powys i Gynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru 2022/23, sydd ar agor tan ddiwedd Chwefror, ac mae'n cyflenwi taliad untro ychwanegol o £200 i aelwydydd ar incwm isel ar draws Cymru.

Mae'r system yn golygu amseroedd prosesu cyflymach, sy'n golygu fod y sawl sy'n gwneud cais ac sy'n bodloni'r meini prawf o ran incwm isel, yn derbyn cymorth yn gynt.

Hefyd mae'n boblogaidd gyda chwsmeriaid; yn eu barn nhw mae'r broses ymgeisio ar-lein yn un syml.

Sylw un ymgeisydd ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd i'r cyngor trwy'r ffurflen adborth oedd: "Hoffwn ddweud cymaint roeddwn yn gwerthfawrogi'r ffordd y trefnwyd y ffurflen gais, trwy gynnig eglurhad byr ar ôl llawer o'r cwestiynau.  Roedd yn tawelu'r meddwl fy mod yn rhoi'r ateb cywir, ac felly roedd yr holl broses yn achosi llai o bryder."

Mae'r cyngor wedi bod yn treialu defnyddio DA i brosesu taliadau grant, yn sgil buddsoddiad blaenorol yn y seilwaith a systemau TG oedd yn caniatáu i'r gwaith ychwanegol ddigwydd. Mae'n cael ei ddefnyddio i roi cymeradwyaeth awtomatig i lawer o'r ceisiadau, lle mae'r meini prawf yn amlwg yn cael eu bodloni, a gellir eu gwirio yn erbyn cofnodion y llywodraeth ac i wrthod nifer fach sy'n gopi dyblyg neu ar gyfer cyfeiriadau tu allan i'r sir.

Caiff ei ddefnyddio hefyd i baratoi pob achos i'w wirio o safbwynt twyll, ac i lanlwytho manylion yn awtomatig yn barod ar gyfer system talu'r cyngor; ond ni chaiff ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau ar unrhyw beth lle mae angen dyfarniad mwy goddrychol. Nac ychwaith ar geisiadau anghyflawn, oherwydd nid yw'n bosibl cyflwyno'r rhain.

Mae DA wedi cymeradwyo'n awtomatig rhyw 62% o'r 8,941 o geisiadau a dderbyniwyd hyd yma ar gyfer Cynllun Cymorth Tanwydd 2022/23, ac os bydd y raddfa hon hyn yn parhau, disgwylir y bydd yn arbed tua £36,400 i'r cyngor mewn costau gweinyddu.

Anfonir ceisiadau nad ydynt yn cael eu cymeradwyo at swyddogion grant i'w hadolygu.

"Gwyddom, pan fydd pobl yn gwneud cais am gymorth grant, maent yn hoffi derbyn y cymorth cyn gynted â phosibl," meddai'r Cyng. Jake Berriman, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cysylltu Powys, "felly, dyna'r rheswm ein bod yn defnyddio awtomatiaeth i gyflymu'r broses cymaint â phosibl.

"Mae hyn yn bwysig, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw, ond bydd y gwelliannau sy'n cael eu gwneud gan ein tîm digidol o fudd i drigolion a busnesau am flynyddoedd i ddod. Maent hefyd yn ein helpu i leihau costau, oherwydd mae incwm y cyngor yn cael ei wasgu gan chwyddiant cynyddol, a thrwy ryddhau ein swyddogion grant i adolygu achosion mwy cymhleth."

Ychwanegodd y Cyng. David Thomas, Aelod y Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Bu rhai mân namau ar hyd y ffordd, gan gynnwys dyblygu taliadau'r Cynllun Cymorth Tanwydd ar gam i rai ymgeiswyr ym mis Hydref, ond nid DA achosodd i hyn ddigwydd.

"Rydym yn hyderus y gall defnyddio awtomatiaeth yn yr hirdymor ein helpu i wella'r gwasanaeth a gynigir i drigolion Powys, a'n helpu i gyflenwi grantiau, budd-daliadau a dyfarniadau iddynt am gost lai."

Mae'r Cynllun Cymorth Tanwydd ar agor tan 5pm ar ddydd Mawrth 28 Chwefror 2023, i aelwydydd cymwys sy'n derbyn ystod o fudd-daliadau: Cynllun Cymorth Tanwydd 2022/23

Hefyd, hwyrach y bydd trigolion Powys yn gallu hawlio £150 ychwanegol trwy Gynllun Cymorth Costau Byw yn ôl Disgresiwn y Cyngor: 

Cyflawnwyd y gwaith awtomatiaeth ar geisiadau grant fel rhan o raglen Powys Ddigidol; nod y rhaglen yw gwella profiad y cwsmer trwy ddefnyddio technoleg newydd.

Gall trigolion Powys sydd â chwestiynau ynghylch y Cynllun Cymorth Tanwydd a'r Cynllun Cymorth Costau Byw ddefnyddio teclyn sgwrsio ar-lein, trwy wefan y cyngor, er mwyn siarad â swyddog.

Hefyd, gellir ffonio 01597 826345 am gyngor ar grantiau, budd-daliadau neu ddyfarniadau.