Rhent a Thaliadau Gwasanaeth - Cwestiynau ac Atebion
Sut penderfynodd y Cyngor ar y newid i fy rhent?
Wrth ystyried y cynnydd, ystyriodd y Cyngor bwysau chwyddiant a chynnydd mewn costau yn enwedig llafur a deunyddiau, nid yw'r cynnydd o 2.7% yn cwmpasu'r holl gynnydd mewn costau. Ystyriwyd fforddiadwyedd tenantiaid o'r holl gostau byw mewn eiddo, gan gynnwys, er enghraifft, rhent, taliadau gwasanaeth a chostau ynni.
Mae'r Panel Craffu Tenantiaid hefyd wedi bod yn rhan o'r trafodaethau ynghylch gosod rhenti ar gyfer 2025-2026.
O 1 Ebrill 2025 ymlaen, bydd y rhent cyfartalog ym Mhowys yn cynyddu 2.7% ar gyfer pob un o'r 5,548 o gartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor ac eithrio taliadau gwasanaeth.
Caiff taliadau gwasanaeth a godir ar denantiaid Cyfrif Refeniw Tai eu diwygio o 1 Ebrill 2025 ymlaen i ganiatáu i'r Cyngor adennill y gost a ysgwyddir wrth ddarparu'r gwasanaethau hyn.
Cynyddir rhenti garej ym Mhowys o Ebrill 1af 2025 o £14.65 i £15.05 yr wythnos (£18.06 i bobl nad ydynt yn denantiaid sy'n destun TAW)
Mae taliadau lleiniau garej, oni bai eu bod wedi'u cwmpasu gan gyfradd sefydlog y cytunwyd arni ar adeg gosod, o 1 Ebrill 2025 ymlaen wedi cynyddu o £186.29 i £191.32 am y flwyddyn.
Codir tâl meddiannaeth wythnosol o 2.7% ar gyfer lleiniau Sipsiwn a Theithwyr o 1 Ebrill 2025, a'r rhent cyfartalog yw £125.39.
Bydd taliadau rhent a gwasanaethau eraill, na nodir uchod, a ddaw i rym o 1 Ebrill 2025 ymlaen yn cynyddu 2.7%.