Rhent a Thaliadau Gwasanaeth - Cwestiynau ac Atebion
Nid wyf yn gallu fforddio talu fy rhent - beth gallaf ei wneud?
Mae rhenti'r cyngor ymhlith yr isaf ym Mhowys - ac mae ein holl eiddo'n cael eu gosod drwy Gontract Meddiannaeth Ddiogel.
Mae hynny'n golygu, cyn belled â'ch bod yn talu eich rhent ac yn cadw at amodau eich contract, fod gennych sicrwydd deiliadaeth cyhyd â'ch bod am aros yn eich cartref. Fodd bynnag, rydym yn deall bod adegau pan mae'n anodd talu biliau fel rhent.
Os ydych chi'n meddwl na fyddwch yn gallu talu eich rhent, ffoniwch Un Rhif Tai sef 01597 827464 cyn gynted â phosibl. Byddwn yn gallu rhoi cyngor i chi ar sut i osgoi mynd i ôl-ddyledion rhent.
Mae gennym hefyd dîm o Swyddogion Cymorth Ariannol a all helpu pobl i reoli eu harian a, lle y bo'n bosibl, hawlio cymorth gan y system nawdd cymdeithasol - er enghraifft Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai.
Rydym ni yma i helpu felly peidiwch ag oedi i'n galw ni os ydych chi'n poeni am ba reswm bynnag sy'n eich poeni ynghylch gwneud eich taliadau rhent.