Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhent a Thaliadau Gwasanaeth - Cwestiynau ac Atebion

Nid wyf yn gallu fforddio talu fy rhent - beth gallaf ei wneud?

Mae rhenti'r cyngor ym Mhowys ymhlith yr isaf - ac mae ein holl eiddo yn cael eu gosod drwy Gontract Meddiannaeth Ddiogel.

Mae hyn yn golygu, mor bell â'ch bod yn talu'ch rhent ac yn glynu wrth amodau'ch contract, mae gennych sicrwydd o safbwynt meddiannaeth mor bell â'ch bod am aros yn eich cartref. Er hynny, byddwn yn deall y bydd adegau efallai, pan fydd hi'n anodd talu biliau megis rhent.

Os byddwch yn meddwl na fyddwch yn gallu talu'ch rhent, cysylltwch â'r Un Rhif Tai ar 01597 827464 cyn gynted â phosibl. Byddwn yn gallu rhoi cyngor ichi ar sut i osgoi mynd i ôl-ddyledion rhent. Hefyd mae gennym dîm o Swyddogion Cymorth Ariannol sy'n gallu helpu pobl i reoli eu harian, a ble fo'n bosibl, hawlio cymorth drwy'r system nawdd cymdeithasol - megis Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai.

Rydym yma i'ch helpu, felly peidio ag oedi ein ffonio os byddwch yn poeni am dalu eich rhent, beth bynnag fo'r rheswm.