Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin am agor ym Mhowys cyn bo hir

Image of housing, a lecture and manufacturing

15 Chwefror 2023

Image of housing, a lecture and manufacturing
Mae rhaglen ariannu gyffrous a allai helpu cymunedau Powys i adeiladu balchder mewn lle, cynyddu cyfleoedd bywyd i breswylwyr a gyrru twf economaidd da, ar fin cael ei lansio dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Gwnaeth Partneriaeth Leol y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a fydd yn penderfynu sut gaiff dros £23m o arian Llywodraeth DU ei wario yn y sir, gwrdd ar ddechrau Chwefror er mwyn paratoi lansio rhaglen Gronfa Ffyniant Gyffredin y sir.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Llewyrchus a Chadeirydd Partneriaeth Leol y Gronfa Ffyniant Gyffredin: "Prif nod y Gronfa Ffyniant Gyffredin yw adeiladu balchder pobl yn eu cymunedau a chynyddu cyfleoedd i breswylwyr a busnesau.

"Bydd y bartneriaeth yn edrych ar sut y gall gefnogi'r nodau hyn orau ar draws y pedwar maes blaenoriaeth buddsoddi a bydd yn canolbwyntio'n fanwl ar echdynnu'r gwerth mwyaf o'r ariannu hwn ar gyfer unigolion, cymunedau a busnesau ledled Powys.

"Ein cynllun yw lansio'r rhaglen ariannu'n swyddogol i Bowys yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, pan fyddwn yn cyhoeddi manylion o'r rhaglen a gwahodd ceisiadau ariannu sy'n cydweddu'r meini prawf a osodwyd gan y bartneriaeth."

Mae'r bartneriaeth, sy'n dwyn ynghyd amrywiaeth o randdeiliaid lleol, yn gyfrifol am reoli strategol a goruchwylio gweithredu rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin ym Mhowys. Bydd yn penderfynu sut fydd dyraniad o £23m y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei fuddsoddi ar draws y meysydd blaenoriaeth buddsoddi canlynol.

a)    Cymunedau a Lle

b)    Cefnogi Busnesau Lleol

c)    Pobl a Sgiliau

d)    Lluosi (gwella sgiliau rhifedd pobl ledled y sir).

Am ragor o wybodaeth edrychwch ar ein cynllun buddsoddi rhanbarthol Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru neu e-bostio ukspf@powys.gov.uk