Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Mae angen aelodau newydd ar gyfer Fforwm Mynediad Lleol Powys

Image of local access forum members enjoying a walk

28 Chwefror 2023

Image of local access forum members enjoying a walk
Mae Cyngor Sir Powys yn estyn gwahoddiad i drigolion gynnig eu henwau i fod yn aelod o Fforwm Mynediad Lleol Powys (FfMLl) a chwarae rhan bwysig o ran dylanwadu ar waith y cyngor mewn perthynas â gofalu am hawliau tramwy cyhoeddus a mannau gwyrdd y sir.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynediad at gefn gwlad - boed hynny'n golygu o safbwynt cyrraedd mannau gwahanol, rheoli tir neu gadwraeth natur - gall eich profiad a'ch dealltwriaeth helpu'r cyngor i siapio ei waith mewn perthynas â mynediad at gefn gwlad. Mae gan Bowys rwydwaith pwysig o lwybrau troed a hawliau tramwy, a dylai fod gan bawb fynediad rhwydd at y rhain.

Eglurodd y Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach goblygiadau hyn. "Grŵp statudol yw'r Fforwm Mynediad Lleol sy'n cynghori Cyngor Sir Powys, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid a sefydliadau eraill ar faterion sy'n ymwneud â hamdden awyr agored yng nghefn gwlad Powys.

"Ar unrhyw adeg, mae hyd at 15 aelod ar y fforwm, sy'n cynnwys pobl o gefndiroedd amrywiol, ac mae'r grŵp cyfan yn cael ei ail-benodi bob tair blynedd. Mae cyfnod yr aelodau presennol yn dod i ben, ac mae'r cyngor yn chwilio am unigolion brwdfrydig fyddai'n hoffi gwneud gwahaniaeth a bod yn rhan o'r Fforwm Mynediad Lleol am y tair blynedd nesaf, gan gychwyn yn Ebrill 2023. Mae'n bwysig cael grŵp amrywiol o ddinasyddion sydd â diddordeb, sy'n gallu cyfleu anghenion pawb sy'n awyddus i gael mynediad at gefn gwlad."

Mae'r fforwm yn cwrdd rhwng dwywaith a phedair gwaith y flwyddyn, a gellir cwrdd wyneb yn wyneb neu'n rhithiol.  Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r Fforwm Mynediad Lleol wedi helpu'r cyngor i siapio ei raglen waith flynyddol, gyda chefnogaeth grantiau amrywiol, ac mae wedi cyflawni rôl ymgynghorol o ran nifer o brosiectau mynediad at gefn gwlad, megis:

  • Prosiect Camlesi, Cymunedau a Lles, sydd i fod i orffen yn Haf 2023 a gyllidir trwy grant Llywodraeth Cymru - Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles yng Nghymru (ENRaW).
  • Prosiect y Gronfa Ffyniant Gyffredin, i wella'r arwyddion ar hawliau tramwy cyhoeddus gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr, sy'n rhedeg hyd at fis Mawrth 2025.

Byddai Kath Shaw, aelod presennol y Fforwm Mynediad Lleol, yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i wirfoddoli fel aelod o Ebrill 2023. "Fel ffermwr ac unigolyn sy'n frwdfrydig am gerdded y mynyddoedd, yn fy marn i roedd yn bwysig cael llais ar Fforwm Mynediad Lleol Powys. Dros y tair blynedd diwethaf, rwyf wedi deall y gwaith a wneir gan Gyngor Sir Powys i gynnal ein llwybrau troed a chilffyrdd.

"Teimlaf fod Fforymau Mynediad Lleol yn ffordd dda iawn i unigolion sydd â diddordeb rannu eu barn a phryderon ynghylch mynediad at gefn gwlad."

Os hoffech dderbyn pecyn cais, gofynnir ichi gysylltu ag Ysgrifennydd y Fforwm Mynediad Lleol:

Sian Barnes
Cyngor Sir Powys, Swyddfeydd y Gwalia, Heol Ithon, Llandrindod, Powys. LD1 6AA
01597 827500
rightsofway@powys.gov.uk

Ceir rhagor o wybodaeth ar-lein: Fforwm Mynediad Lleol

Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 30 Mawrth 2023