Mae'r amserlen ar gyfer cyflenwi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn fyr; yn ymarferol, bydd angen cwblhau pob prosiect a chyflwyno hawliadau terfynol erbyn 31 Rhagfyr 2024, er mwyn caniatáu amser ar gyfer cau'r rhaglen. Gall ymgeiswyr gynnwys elfen o wariant ôl-weithredol yn eu cais o 1 Ebrill 2023.
Gan ystyried y cyfnod byr sydd ar gael i'w gyflenwi, bydd y Bartneriaeth Leol yn ceisio cefnogi nifer gymharol fach o brosiectau strategol, mwy. Mae'n rhaid i bob prosiect a gyflwynir geisio o leiaf £50,000 o gronfeydd UKSPF ac uchafswm o £250,000 ar gyfer 2023-24. Gall prosiectau adeiladu capasiti/asgwrn cefn o fewn yr alwad hon gynnwys gwariant ar gyfer 2024-25, fodd bynnag, bydd y dyddiad diwethaf ar gyfer cyflwyno prosiectau a chyflwyno hawliadau terfynol yn ddim hwyrach na 31/12/2024. Os yw eich gofyniad cyllidebol ar gyfer 2024-25 yn debygol o fod yn fwy na £250,000, trafodwch eich gofynion gyda Thîm Cyflenwi Lleol Powys (ukspf@powys.gov.uk) cyn cyflwyno eich cais.
Bydd y Cyngor yn talu'r Grant i'r Cyflenwyr Prosiect llwyddiannus fel ôl-daliadau yn chwarterol yn seiliedig ar Wariant Cymwys a ysgwyddir wrth gyflenwi'r Prosiect yn dilyn derbyn y Ffurflen Hawlio.
Uchafswm y grant sydd ar gael ar gyfer astudiaethau dichonoldeb yw £50,000, gydag isafswm o £10,000 ar gyfer 2023-24. Dylid cwblhau astudiaethau dichonoldeb, a chyflwyno hawliadau terfynol erbyn 31 Mawrth 2024.
Mae'r UKSPF yn cynnwys cyllid cyfalaf a refeniw. Gall ymgeiswyr ddewis cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau cyfalaf yn unig, prosiectau refeniw yn unig neu brosiectau sy'n ceisio cyfuniad o'r ddau.
Bydd gweithredu yn unol â threfn rheoli cymhorthdal newydd y DU a ddechreuodd ar 4 Ionawr 2023, yn ofyniad allweddol ar gyfer unrhyw brosiect. Dylai pob ymgeisydd ymgyfarwyddo â gofynion y gyfundrefn: https://www.gov.uk/government/collections/subsidy-control-regime
O ystyried yr amgylchiadau cyfyngedig ar gyfer cyflenwi'r UKSPF, bydd hyder yn y modd y cyflenwir cynigion a gyflwynwyd yn ystyriaeth allweddol i'r Bartneriaeth Leol ochr yn ochr â chapasiti a gallu sefydliadau sy'n ymgeisio.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr fanylu ar sut fydd y gweithgaredd arfaethedig yn alinio a chefnogi strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol eraill. Gweler tudalen 29 Cynllun Buddsoddi Canolbarth Cymru am esiamplau.
Wrth gyflwyno cais, byddwch yn awdurdodi'r awdurdod/awdurdodau lleol i wneud yr ymholiadau angenrheidiol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu rhaglen UKSPF.
Mae proses ymgeisio un cam. Derbynnir ceisiadau o 15/05/2023 tan 23.59pm ar 11/06/2023. Bydd ceisiadau wedi'u cwblhau yn cael eu harfarnu gan Dîm Cyflawni Lleol Powys a Phartneriaeth Leol Cronfa Ffyniant a Rennir Powys.
Sylwer - yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a fydd yn dod i law yn ystod yr alwad gyntaf agored, gallai'r alwad hon agor yn gynt na'r hyn a nodir uchod. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y wefan yn cael ei diweddaru yn unol â hyn a bydd datganiad i'r wasg yn cael ei gyhoeddi, fel sy'n briodol.
Ewch i Sut i Ymgeisio i lawrlwytho'r ffurflen gais a chanllawiau.
Dylid anfon ffurflenni cais wedi'u cwblhau ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys drwy e-bost i ukspf@powys.gov.uk erbyn y dyddiad cau.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch cais i'r e-bost ukspf@powys.gov.uk.
Bydd ceisiadau rhanbarthol yn cael eu hystyried; cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio ukspf@powys.gov.uk i drafod gofynion.
Dewch o hyd i ynghlwm y sleidiau cyflwyno fel yr addawyd. Bydd y rhain hefyd ar gael ar y gwefannau ar gyfer Growing Mid Wales, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys drwy'r dolenni canlynol: http://tyfucanolbarth.cymru/UKSPFCanolbarthCymru
Bydd cyfleoedd yn y dyfodol yn cael eu rhannu ar y wefan hon, drwy ddatganiad i'r wasg a thrwy ein rhestr bostio. Cysylltwch â Thîm Cyflenwi Lleol Powys drwy e-bostio ukspf@powys.gov.uk, os ydych yn dymuno cael eich ychwanegu at ein rhestr bostio.