Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymeradwyo Prosiect Mewnol - Rhagfyr 2022

Cyflwyniad:

Mae'r rhaglen yn rhan o Gynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru, sy'n nodi blaenoriaethau buddsoddi dyraniad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU gwerth £40.9m yn y Canolbarth (Ceredigion a Phowys).

Mae gan Bowys gyfanswm dyraniad o ychydig dros £26m i'w gyflawni erbyn diwedd Rhagfyr 2024, gyda'r rhaglen yn cau ar 31/03/25. Mae'r arian i'w ddarparu dros dair blynedd ariannol; y flwyddyn gyntaf yw'r hyn sy'n weddill o'r flwyddyn ariannol bresennol (2022/23).

Cymeradwyo Prosiectau:

I gychwyn, cafodd 93 syniad prosiect eu cynnig gan Swyddogion Cyngor Sir Powys ar gyfer prosiectau a oedd yn gallu darparu a chyflawni rhywfaint o wariant yn y flwyddyn ariannol hon.

Yn dilyn y broses gychwynnol o gadarnhau cymhwysedd, gwnaeth 46 o'r rhain symud ymlaen i lenwi ffurflen gais. Cafodd pob cais ei asesu gan ddefnyddio meini prawf wedi'u hamlinellu isod ac ar sail yr asesiad hwn, cafodd argymhellion eu cyflwyno mewn cyfarfod o Banel Cronfa Ffyniant Gyffredin y Grŵp Cyflawni Economaidd a Datblygu ar 15 Rhagfyr. Arweiniodd hyn at gymeradwyo 33 prosiect.

Cafodd pob cais prosiect ei ystyried a'i sgorio yn erbyn y meini prawf asesu canlynol:

Addasrwydd strategol

  • A wnaeth y cynnig gyfrannu at amcanion strategol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU?
  • Pa mor dda y cyfrannodd y cynnig at ymdrin â'r heriau a'r cyfleoedd allweddol wedi'u nodi yng Nghynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU?
  • Pa dystiolaeth oedd o gefnogaeth leol?
  • Cafodd y broses o ddewis prosiectau ei llywio gan yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd gyda'r Aelodau y llynedd a nodau ac amcanion y Cynllun Corfforaethol.

Cyflawnadwyedd

  • A yw'r prosiect yn gallu gweithredu'n gyflym a chyflawni gwariant yn y flwyddyn ariannol hon?
  • A oes gan yr ymgeisydd (a'r partner(iaid) cyflenwi lle bo hynny'n berthnasol) brofiad perthnasol wrth ddarparu prosiectau o'r math hwn?
  • A oes gan yr ymgeisydd yr adnoddau ar waith sydd eu hangen i gyflawni'r prosiect, gan gynnwys unrhyw gyllid cyfatebol?
  • A yw'r cerrig milltir yn realistig ac a oes modd cyflawni'r prosiect o fewn yr amserlen a nodir?
  • A oes prosesau digonol ar waith i liniaru yn erbyn risg?

Effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd

  • effeithiolrwydd cyffredinol y cynnig gan gynnwys yr allbynnau a'r canlyniadau arfaethedig, cyllideb y prosiect a chynlluniau ar gyfer monitro a gwerthuso.
  • effeithlonrwydd cyffredinol y cynnig, gan gynnwys Gwerth am Arian.

Blwyddyn 1 (2022-23) Cyllideb ac Ymrwymiad:

Roedd Llywodraeth y DU wedi pwysleisio os na fyddai ein dyraniad Blwyddyn 1 (£3.4m) yn cael ei wario, roedd perygl gwirioneddol y byddem yn ei golli. Felly, fel llawer o awdurdodau lleol eraill ledled Cymru, penderfynwyd agor galwad mewnol ar gyfer prosiectau, a oedd yn barod i gyflawni a gwario cyllideb cyn 31/03/23. Yn anffodus, ni fyddai amser wedi caniatáu i ni fynd allan i agor galwad am geisiadau allanol, oherwydd amserlenni ymgeisio ac arfarnu, o ystyried y cyhoeddiad gohiriedig a rhyddhau cyllid.

Mae'r tabl isod yn dangos dyraniad cyllideb Blwyddyn 1 ar gyfer Powys (£3.3m ar gyfer prosiectau) a'r cyfanswm a ddyrannwyd ar gyfer prosiectau mewnol cymeradwy ar gyfer Blwyddyn 1. Roedd y prosiectau'n gallu cynnwys gwariant ôl-weithredol o 1/4/22. Gweler y rhestr prosiectau cymeradwy ynghlwm a thabl crynhoi Blwyddyn 1 isod.

Blwyddyn 1

2022—23

Dyraniad Cyllideb Blwyddyn 1

Rownd 1 - Cyfanswm y Prosiectau Mewnol wedi'i Gymeradwyo

Balans Blwyddyn 1 sy'n weddill

Blaenoriaethau Buddsoddi Craidd

2,645,140

2,325,357

319,783

Lluosi

687,737

328,372

359,365

Cyfanswm

3,332,877

2,653,729

679,148

Noder. Mae'r  rhestr prosiectau mewnol (PDF) [197KB] gymeradwy yn cynnwys gwariant Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3, ar gyfer prosiectau sydd angen cyfnod cyflawni hirach. Bydd adolygiadau perfformiad prosiectau yn cael eu cynnal cyn bod cyllidebau blynyddoedd y dyfodol yn cael eu cytuno arnynt a'u rhyddhau.

Blwyddyn 1 Cario Ymlaen: Ar ôl cymeradwyo'r prosiectau Blwyddyn 1 mewnol, mae balans o £679,148, yr ydym yn bwriadu ei gario ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf, gan ychwanegu at ein dyraniad Blwyddyn 2.  Er mwyn gallu cario arian ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf, mae'n ofynnol gan Lywodraeth y DU bod 'cynllun credadwy' yn cael ei gynhyrchu a'i gymeradwyo.

Prosiectau'r dyfodol:

Bydd Partneriaeth Leol Ffyniant Cyffredinol, sydd eisoes wedi'i sefydlu ac sy'n cynnwys cynrychiolwyr y Cyngor a sefydliadau lleol, yn cytuno ar weddill y rhaglen.

I gael mwy o wybodaeth e-bostiwch ukspf@powys.gov.uk