Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Pumed Galwad ar gyfer Ceisiadau

Bellach, mae'r alwad hon am geisiadau ar gau

Levelling up logo
UK Government Levelling Up logo
 Bydd y pumed cyfle i gyflwyno ceisiadau am gyllid yn agor ddydd Mawrth 6 Chwefror 2024 a bydd yn cau am 23:59 ddydd Sul 3 Mawrth 2024.

Bydd y pumed galwad yn cael ei dargedu at y themâu canlynol a'r meysydd blaenoriaeth buddsoddi:

1)     Pobl a Sgiliau

  • Ymyrraeth W37: Ymyriadau i gynyddu lefelau cynhwysiant digidol, gyda ffocws ar sgiliau digidol hanfodol, cyfathrebu manteision o fynd ar-lein (yn ddiogel), a chymorth yn y gymuned i roi'r hyder a'r ymddiriedaeth i ddefnyddwyr aros ar-lein.
  • Ymyrraeth W41: Ailhyfforddi ac uwchsgilio cymorth i'r rheini mewn sectorau carbon uchel, gan ganolbwyntio'n benodol ar drosglwyddo i swyddi gwyrdd, a diwydiant 4.0 a 5.0.
  • Ymyrraeth W43: Cyllid i gefnogi ymgysylltu a datblygu sgiliau meddalach i bobl ifanc, o ran gwaith Gyrfa Cymru/Cymru'n Gweithio.

Holl ymyraethau oddi fewn i Bobl a Sgiliau -  Cynllun-Buddsoddi-Rhanbarthol-Canolbarth-Cymru 

Gwybodaeth bwysig

  • Byddwn yn derbyn dyddiadau cychwyn prosiect dim cynt na'r 1 Ebrill 2024.
  • Mae'r amserlen ar gyfer cyflenwi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn fyr; yn ymarferol, bydd angen cwblhau pob prosiect a chyflwyno hawliadau terfynol erbyn 31 Rhagfyr 2024, er mwyn caniatáu amser ar gyfer cau'r rhaglen
  • Bydd cyfanswm y cyllid heb ei ymrwymo a fydd ar gael o fewn y maes blaenoriaeth hwn ar gyfer 2024/25 oddeutu £390,000. Gall prosiectau gyflwyno ceisiadau ar gyfer unrhyw swm hyd at a chan gynnwys £390,000.  Bydd y broses yn un gystadleuol a bydd y llwyddiant yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a dderbynnir a'u gwerth
  • Os yw eich gofynion cyllidebol yn debygol o ddisgyn yn is na £50,000 oherwydd bod cyfnod cyflenwi byr ar ôl yn 2024-25, gofynnwn i chi drafod eich gofynion gyda Thîm CYflenwi Lleol Powys (ukspf@powys.gov.uk) cyn cyflwyno'ch cais.
  • Dim ond cyllid refeniw y mae modd gwneud cais amdano o fewn y galwad agored yma.
  • Bydd y cyllid yn cael ei dalu'n ôl-weithredol wedi i ni dderbyn cais wedi'i archwlio a'i gymeradwyo.
  • Bydd gweithredu yn unol â threfn rheoli cymhorthdal newydd y DU a ddechreuodd ar 4 Ionawr 2023, yn ofyniad allweddol ar gyfer unrhyw brosiect. Dylai pob ymgeisydd ymgyfarwyddo â gofynion y gyfundrefn: https://www.gov.uk/government/collections/subsidy-control-regime
  • Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr fanylu ar sut fydd y gweithgaredd arfaethedig yn alinio a chefnogi strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol eraill. Gweler tudalen 29 Cynllun Buddsoddi Canolbarth Cymru am esiamplau.
  • Wrth gyflwyno cais, byddwch yn awdurdodi'r awdurdod/awdurdodau lleol i wneud yr ymholiadau angenrheidiol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu rhaglen UKSPF.
  • Mae proses ymgeisio un cam.  Derbynnir ceisiadau o 06/02/2024 tan 23.59pm ar 03/03/2024.  Bydd ceisiadau wedi'u cwblhau yn cael eu harfarnu gan Dîm Cyflawni Lleol Powys a Phartneriaeth Leol Cronfa Ffyniant a Rennir Powys. 
  • Ewch i Sut i Ymgeisio i lawrlwytho'r ffurflen gais a chanllawiau.
  • Dylid anfon ffurflenni cais wedi'u cwblhau ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys drwy e-bost i ukspf@powys.gov.uk erbyn y dyddiad cau. 
  • Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch cais i'r e-bost ukspf@powys.gov.uk
  • Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Cwestiynau Cyffredin (PDF) [106KB]

Bydd cyfleoedd yn y dyfodol yn cael eu rhannu ar y wefan hon, drwy ddatganiad i'r wasg a thrwy ein rhestr bostio.  Cysylltwch â Thîm Cyflenwi Lleol Powys drwy e-bostio ukspf@powys.gov.uk, os ydych yn dymuno cael eich ychwanegu at ein rhestr bostio.