Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Diweddariadau am y Cynllun Corfforaethol

Ein Perfformiad

Mae'r dull o fonitro a rheoli ein perfformiad yn cael ei gyflwyno yn ein Dogfen Perfformiad (PDF) [530KB], sydd hefyd yn esbonio sut rydym yn olrhain ein cynnydd. Yr enw blaenorol ar hwn oedd y 'Fframwaith Rheoli Perfformiad a Sicrhau Ansawdd'.

Mae Cryfach, Tecach, Gwyrddach: Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Corfforaethol a Strategol (2023 i 2027)  manylu ar yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud a sut y byddwn yn gwybod a ydym 'ar y trywydd iawn' ai peidio.  Rydym wedi ymrwymo i amcanion, camau gweithredu a mesurau a fydd yn ein helpu i gyflawni ein cynllun, ac rydym yn defnyddio y Cerdyn Sgorio Cynllun Cydraddoldeb Corfforaethol a Strategol isod i adrodd am ein cynnydd. 

Cyhoeddir y cerdyn sgorio bob chwe mis, ym mis Medi a mis Chwefror, a chyhoeddir Hunanasesiad o'r Cyngor yn flynyddol.

Defnyddio'r Cerdyn Sgorio

  • Defnyddiwch y ddewislen llywio ar yr ochr chwith i'r cerdyn sgorio.
  • Rydym yn adrodd yn erbyn tri amcan, a diwyg arferol y cerdyn sgorio yw dangos amcan 1 gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad.
  • Defnyddiwch y botwm 'Amcan 2' neu 'Amcan 3' i weld y wybodaeth am yr amcanion eraill.
  • Gallwch ddewis hidlo'r flwyddyn, y chwarter, neu'r gwasanaeth arweiniol trwy newid yr opsiynau yn y ddewislen ar y chwith.
  • Bydd y botwm 'clirio dewisiadau' yn ailosod y cerdyn sgorio cyfan i ddangos y golwg ddiofyn.

Os hoffech gael y cyhoeddiad hwn mewn fformat amgen neu ffont mwy, cysylltwch â ni:

E-bost: business_intelligence@powys.gov.uk

Ffôn: 01597 826000

Drwy'r post:  Prif Weithredwr a Chymorth, Aelodau, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys LD1 5LG

Cerdyn Sgorio ein Cynllun Corfforaethol a Chydraddoldeb Strategol 2023-27