Mae dal i fod amser i ddweud eich dweud ar Gynllun Llesiant Powys
21 Mawrth 2023
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ei gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru i baratoi Cynllun Llesiant lleol sy'n rhoi manylion cynlluniau i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, a diwylliannol ein cymunedau.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys yn gyfrifol am ddatblygu Cynllun Llesiant lleol ar gyfer yr ardal i helpu trigolion Powys i gyflawni eu nodau llesiant. Er mwyn cyflawni'r uchelgais "Powys Deg, Iach a Chynaliadwy", gosodwyd yr amcanion isod sef nodau craidd y cynllun:
- Bydd pobl ym Mhowys yn byw bywydau hapus, iach, a diogel
- Mae Powys yn sir o fannau a chymunedau cynaliadwy
- Gwasanaeth Cyhoeddus gynyddol effeithiol i bobl Powys
Meddai'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys: "Yn dilyn y gwaith asesu llesiant y llynedd, a gweithgareddau ymgysylltu yn ymwneud â hyn, rydym wedi datblygu darlun cynhwysfawr o lesiant pobl a chymunedau lleol ar draws Powys ac rydym wedi'i ddefnyddio i greu cynllun llesiant mwy diweddar.
"Fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, rydym wedi ymrwymo i gymryd camau rhagweithiol i gefnogi'r sir a'i phobl, sydd nid yn unig yn gwasanaethu anghenion y sefyllfa a'r boblogaeth bresennol ond sy'n berthnasol ac yn briodol i anghenion a dymuniadau cenedlaethau'r dyfodol.
"Hoffwn annog pawb i ddarllen y cynllun llesiant diweddaraf ar gyfer Powys ac i lenwi'r arolwg. Bydd eich barn yn ein helpu i benderfynu pa mor dda mae'r amcanion a'r cynllun drafft newydd wedi cael eu derbyn, a beth efallai sydd angen ei newid er mwyn i ni allu gwneud yn siŵr bod y cynllun terfynol yn gweithio i bobl Powys. "
Hefyd yn ystod y cyfnod hwn o ymgysylltu â'r cyhoedd, mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn ymgysylltu ag ysgolion i roi cyfle i bobl ifanc y sir i gefnogi datblygiad y cynllun llesiant drwy ofyn iddynt gynhyrchu celf neu farddoniaeth yn seiliedig ar y thema "Pa olwg yr hoffech ar ddyfodol Powys?".
Bydd y gwaith yn cael ei gynnwys mewn cystadleuaeth ar draws y sir yn y categorïau isod:
- Barddoniaeth Blynyddoedd Cynnar a Chynradd
- Celf Blynyddoedd Cynnar a Chynradd
- Barddoniaeth Uwchradd
- Celf Uwchradd
Croesawir ceisiadau gan unrhyw un sydd eto i gymryd rhan drwy ei bostio at:Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG
Neu drwy e-bostio powyspsb@powys.gov.uk
Bydd enillwyr y gerdd orau a'r gwaith celf gorau fesul categori sydd wedi'u rhestru uchod, gyda'r enillwyr yn cael sylw o fewn y Cynllun Llesiant newydd.
I ymateb i'r ymgynghoriad ac am fwy o wybodaeth ewch i https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/arolwg-cynllun-llesiant-powys neu e-bostiwch powyspsb@powys.gov.uk .
Am fwy o wybodaeth ynghylch Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys a'r cynllun llesiant, ewch i dudalen we llesiant Powys:https://cy.powys.gov.uk/cynaliadwyedd