Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Mae dal i fod amser i ddweud eich dweud ar Gynllun Llesiant Powys

Powys Public Service Board Logo in front of an image of Lake Vyrnwy

21 Mawrth 2023

Powys Public Service Board Logo in front of an image of Lake Vyrnwy
Dim ond un mis sydd ar ôl i chi ddweud eich dweud am Gynllun Llesiant newydd Powys (mae'r ymgynghoriad ar agor tan hanner nos 19 Ebrill).

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ei gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru i baratoi Cynllun Llesiant lleol sy'n rhoi manylion cynlluniau i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, a diwylliannol ein cymunedau.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys yn gyfrifol am ddatblygu Cynllun Llesiant lleol ar gyfer yr ardal i helpu trigolion Powys i gyflawni eu nodau llesiant.  Er mwyn cyflawni'r uchelgais "Powys Deg, Iach a Chynaliadwy", gosodwyd yr amcanion isod sef nodau craidd y cynllun:

  • Bydd pobl ym Mhowys yn byw bywydau hapus, iach, a diogel
  • Mae Powys yn sir o fannau a chymunedau cynaliadwy
  • Gwasanaeth Cyhoeddus gynyddol effeithiol i bobl Powys

Meddai'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys: "Yn dilyn y gwaith asesu llesiant y llynedd, a gweithgareddau ymgysylltu yn ymwneud â hyn, rydym wedi datblygu darlun cynhwysfawr o lesiant pobl a chymunedau lleol ar draws Powys ac rydym wedi'i ddefnyddio i greu cynllun llesiant mwy diweddar.

 "Fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, rydym wedi ymrwymo i gymryd camau rhagweithiol i gefnogi'r sir a'i phobl, sydd nid yn unig yn gwasanaethu anghenion y sefyllfa a'r boblogaeth bresennol ond sy'n berthnasol ac yn briodol i anghenion a dymuniadau cenedlaethau'r dyfodol. 

"Hoffwn annog pawb i ddarllen y cynllun llesiant diweddaraf ar gyfer Powys ac i lenwi'r arolwg.  Bydd eich barn yn ein helpu i benderfynu pa mor dda mae'r amcanion a'r cynllun drafft newydd wedi cael eu derbyn, a beth efallai sydd angen ei newid er mwyn i ni allu gwneud  yn siŵr bod y cynllun terfynol yn gweithio i bobl Powys. "

Hefyd yn ystod y cyfnod hwn o ymgysylltu â'r cyhoedd, mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn ymgysylltu ag ysgolion i roi cyfle i bobl ifanc y sir i gefnogi datblygiad y cynllun llesiant drwy ofyn iddynt gynhyrchu celf neu farddoniaeth yn seiliedig ar y thema "Pa olwg yr hoffech ar ddyfodol Powys?".

Bydd y gwaith yn cael ei gynnwys mewn cystadleuaeth ar draws y sir yn y categorïau isod:

  • Barddoniaeth Blynyddoedd Cynnar a Chynradd 
  • Celf Blynyddoedd Cynnar a Chynradd
  • Barddoniaeth Uwchradd 
  • Celf Uwchradd

Croesawir ceisiadau gan unrhyw un sydd eto i gymryd rhan drwy ei bostio at:Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG

Neu drwy e-bostio powyspsb@powys.gov.uk

Bydd enillwyr y gerdd orau a'r gwaith celf gorau fesul categori sydd wedi'u rhestru uchod, gyda'r enillwyr yn cael sylw o fewn y Cynllun Llesiant newydd.

I ymateb i'r ymgynghoriad ac am fwy o wybodaeth ewch i https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/arolwg-cynllun-llesiant-powys neu e-bostiwch powyspsb@powys.gov.uk .

Am fwy o wybodaeth ynghylch Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys a'r cynllun llesiant, ewch i dudalen we llesiant Powys:https://cy.powys.gov.uk/cynaliadwyedd