Toglo gwelededd dewislen symudol

Beth allwn ni ei wneud i chi?

Who do we support

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae gennym ddyletswydd hollgyffredinol i gyrchu a hyrwyddo llesiant pobl sydd ag angen gofal a chefnogaeth, a'u gofalwyr.

Byddwn yn dod i wybod am yr hyn sy'n bwysig i chi a pha nodau yr ydych yn ceisio eu cyflawni drwy asesu eich anghenion.

Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â chi a'ch teulu, ffrindiau a gofalwyr gan ddefnyddio model sy'n seiliedig ar gryfderau, i ddynodi pa gefnogaeth sydd ar gynnig. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Edrych ar beth all pobl a'u cymunedau ei gyfrannu i gyflawni eu deilliannau llesiant a phersonol, a'u rolau a chyfrifoldebau yn hyn o beth.
  • Adeiladu ar yr adnoddau sydd gan bobl eu hunain, gan gynnwys cryfderau pobl, eu gallu, teulu, cynorthwywyr ac adnoddau cymunedol. 
  • Cydweithio ag asiantaethau eraill ac mewn partneriaeth â nhw

Byddwn ni'n cwblhau Asesiad Integredig a/neu Asesiad Gofalwr gyda chi a ble y bo'n angenrheidiol cyd-gynhyrchu Cynllun Gofal a Chymorth / Cynllun Cymorth Gofalwr i sicrhau bod eich holl gryfderau yn cael eu cydnabod a'r deilliannau'n cael eu dynodi a rhoi cymorth i chi eu cyflawni. Caiff eich Cynllun Gofal a Chymorth ei adolygu o leiaf bob 12 mis i sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu eich anghenion.

Os fyddwn ni'n meddwl fod person 'mewn risg' byddwn yn gweithio gyda'n cydweithwyr diogelu i liniaru'r risgiau gymaint ag sy'n bosibl. 

Os oes gennych weithiwr gofal anabledd eisoes, cysylltwch â'ch gweithiwr gan ddefnyddio'r rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost y maen nhw wedi eu darparu i chi.

Cyswllt

  • Ebost: cymorth@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0345 602 7050 (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Cyfeiriad: CYMORTH (Gwasanaethau i Oedolion), Pobl Uniongyrchol Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau