Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cannoedd o fusnesau'n derbyn cymorth rhyddhad ardrethi

Image of new British money

15 Mai 2023

Image of new British money
Mae'r Cyngor Sir wedi datgan bod dros 650 o fusnesau Powys yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch wedi cael gostyngiad yn eu biliau trethi busnes ar ôl gwneud cais am y cynllun rhyddhad ardrethi.

Mae'r cynllun Rhyddhad Trethi Busnes, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24, sy'n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Powys, wedi rhoi rhyddhad o 75% i 660 o fusnesau yn y sir sydd wedi gweld gostyngiad o £3.4m yn eu biliau trethi busnes.

Bellach, mae'r cyngor yn annog busnesau cymwys eraill i wneud cais am y rhyddhad ardrethi ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi busnesau Powys i ailgodi o effeithiau'r pandemig a'r heriau economaidd parhaus gan gynnwys cyfraddau chwyddiant uchel, yn cynnig gostyngiad o 75% i fusnesau cymwys ar y bil ardrethi busnes ar gyfer eiddo.

Bydd y cynllun yn berthnasol i bawb sy'n tallu trethi gydag uchafswm y gostyngiad ar gyfer pob eiddo busnes yn £110,000.

Mae'r cyngor wedi derbyn cyllid drwy grant o hyd at £4.9m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun.

Rhaid i'r busnes fod yn y sectorau manwerthu, hamdden, lletygarwch neu dwristiaeth, er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Mae'r cynllun rhyddhad ardrethi ar gael tan 31 Mawrth 2024. Rhaid i fusnesau sy'n bodloni'r meini prawf wneud cais am y rhyddhad ardrethi hwn.

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Rydym yn amcangyfrif y gallai 900 o fusnesau ym Mhowys fod â hawl i'r rhyddhad ardrethi hwn o 75% felly rwy'n falch iawn bod bil trethi busnes dros ddwy ran o dair o fusnesau wedi gostwng ar ôl gwneud cais am ryddhad ardrethi.

"Mae'n parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i'r busnesau hyn yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda'r cyfnod economaidd heriol parhaus sy'n eu hwynebu wrth geisio ailgodi o effeithiau'r pandemig.

"Mae'r cynllun hwn yn cefnogi busnesau yn y sectorau hyn felly hoffwn annog y rhai sydd heb wneud cais i wneud hynny cyn gynted â phosibl."

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun, gan gynnwys y ffurflen gais a gwybodaeth am sut i wneud cais, ar gael ar-lein yn Trethi Busnes: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023 / 2024.