Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyhoeddi pecyn tendro ar gyfer Ysgol G.G. Pontsenni

Image of Sennybridge C.P. School

24 Mai 2023

Image of Sennybridge C.P. School
Mae prosiect cyffrous a fydd yn trawsnewid addysg i ddysgwyr de Powys wedi symud gam yn nes wrth gyhoeddi pecyn tendro.

Mae Cyngor Sir Powys yn chwilio am gontractwyr i adeiladu ysgol dwy ffrwd newydd â 150 o leoedd ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Pontsenni.

Bydd y prosiect yn helpu'r cyngor i gyflawni ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.

Ariennir yr ysgol gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn darparu 65% o'r cyllid drwy ei Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn flaenorol). Bydd y 35% sy'n weddill yn cael ei ariannu gan y cyngor.

Bydd y prosiect yn gweld y cyngor yn darparu cyfleuster newydd gyda darpariaeth blynyddoedd cynnar a chymunedol a fydd yn cymryd lle adeiladau a chyfleusterau chwarae presennol yr ysgol ar dir yr ysgol bresennol.

Bydd y cynllun yn cael ei adeiladu i lefel Carbon Sero Net o ran ei gweithredu ac i safonau Passivhaus, a fydd yn creu adeilad ynni-effeithlon.

Bydd gwell parcio, caeau chwarae a mynediad i'r briffordd yn rhan o'r datblygiad.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Nid yw adeilad presennol Ysgol Gynradd Pontsenni'n addas i fodloni anghenion cwricwlwm yr 21ain Ganrif nac i ddiwallu anghenion llesiant disgyblion.

"Mae cyhoeddi'r pecyn tendro yn gam mawr ymlaen ar gyfer y prosiect hwn i adeiladu'r ysgol.

"Bydd yr ysgol newydd ar gyfer Pontsenni yn darparu cyfleusterau y mae'r plant yn eu haeddu a bydd yn galluogi'r cwricwlwm i gael ei gyflwyno o'r Cyfnod Sylfaen i ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 mewn modd di-dor a chydlynol."

Am fwy o wybodaeth am Drawsnewid Addysg ym Mhowys, ewch i Trawsnewid Addysg.