Toglo gwelededd dewislen symudol

Coed Stryd Machynlleth

Crynodeb

Cafodd coed eu symud i ffwrdd o goedlun integrol canol Machynlleth, a chafodd rhagor eu dynodi i'w symud i ffwrdd (neu waith adfer).

Mae hyn oherwydd bod eu hiechyd yn dirywio a / neu agweddau sy'n berthnasol i ddiogelwch (fel a ddynodwyd gan dyfwyr coed hyfforddedig a chymwys) er gwaetha'r ffaith mai dim ond 30 mlwydd oed ydy'r coed.  

Ceir dyletswydd cyfreithiol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amnewid unrhyw goed cwympedig mewn ardal gadwraeth.

Mae manteision niferus ac amrywiol gan goed, nid dim ond pren maen nhw'n ei gynhyrchu. Maen nhw hefyd yn darparu cysgod, ychwanegu prydferthwch a gwerth amwynder, cefnogi rhywogaethau eraill, gwella ein llesiant a darparu ymwybyddiaeth o hanes, lle a pharhad.

Maen nhw'n cynyddu gwerth eiddo ac annog twristiaeth ac maen nhw mor soffistigedig a chymwynasgar fel eu bod drwy ffotosynthesis nid yn unig yn amsugno carbon deuocsid ond hefyd yn darparu ocsigen i ni ei anadlu. Mae eu gwreiddiau fel sbwng yn amsugno dŵr fel eu bod hefyd yn helpu i reoli dŵr arwyneb a lleihau llifogydd.

Mae draeniad trefol cynaliadwy (SUDs) yn ystyriaeth sylfaenol ac annatod oddi fewn i ddatblygiad cynaliadwy. Mae'n ofynnol yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod yr holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio tuag at y nod o "Genedl sy'n cynnal a gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy'n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â'r gallu i addasu i newid."  

Mae draeniad cynaliadwy yn galluogi dull gweithredu naturiol ar gyfer arafu dŵr a'i ddal yn ôl. Gall coed a SUDs weithio gyda'i gilydd i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur fel ffurf o isadeiledd gwyrdd i arafu'r llif.

Gall colli coed fod yn emosiynol ac ysgogi teimladau anodd. Rydym yn ymwybodol o'r ffynonellau niferus o werth coed stryd Machynlleth yn ogystal â'n dyletswydd a'n rhwymedigaeth i'w hadnewyddu.

Rydym ni hefyd yn ymwybodol o'r argyfwng hinsawdd a natur a'r hyn all goed ei gyfrannu wrth adfer y problemau a wynebir, a hynny drwy'r amrywiaeth helaeth o werthoedd maen nhw'n ei waddoli. Rydym ni hefyd yn ymwybodol pan gafodd y coed eu plannu'n wreiddiol roedd y dechnoleg yn gyfyngedig ac mae problemau wedi codi wrth i'w gwreiddiau dyfu ac ehangu oddi fewn i'r amgylchedd trefol newidiol.

Mae cyfle ariannol wedi dod i'r fei sy'n ein galluogi ni i dyfu'r coed yn ôl ym Machynlleth a'r tro hwn byddwn yn harneisio'r systemau tyfiant tanddaearol sy'n diogelu a rhoi maeth i'r gwreiddiau oddi fewn i amgylchedd hunangynhaliol a diogel. Rydym am roi coed i'r dref a gyfer y dyfodol hir-dymor, coed a fydd yn darparu cenedlaethau'r dyfodol ym Machynlleth â hanes sy'n gyforiog o straeon ei choed.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu