Polisi Gorfodi Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022
Trosolwg o Sancsiynau
Cosbau Ariannol
Mae'r Ddeddf yn darparu y gall y Cyngor osod cosbau ariannol o leiafswm o £500 hyd at uchafswm o £30,000 am dramgwydd perthnasol yn erbyn adran 3(1) y Ddeddf, lle mae'r Cyngor yn fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol bod tramgwydd perthnasol wedi digwydd.
Gorchmynion Adennill
Mae'r Ddeddf hefyd yn darparu y gallai'r Cyngor orchymyn y landlord, neu unigolyn sy'n gweithredu ar ei ran, a dderbyniodd daliad o'r rhent gwaharddedig[1] yn groes i adran 3(1) y Ddeddf i ad-dalu'r lesddeiliad a'i talodd, pan fo'r Cyngor yn fodlon yn ôl yr hyn sy'n debygol bod tramgwydd perthnasol wedi digwydd.
Ni all y Cyngor orchymyn unigolyn i ad-dalu'r rhent gwaharddedig os yw lesddeiliad wedi gwneud cais o dan adran 13 y Ddeddf i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Eiddo) yn Lloegr neu'r Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau yng Nghymru (yn y naill gyd-destun neu'r llall byddwn yn cyfeirio at y fforwm perthnasol fel "y Tribiwnlys") mewn perthynas â'r un taliad.
Lle nad yw unrhyw ran o ddau neu fwy o daliadau rhent gwaharddedig a wnaed gan lesddeiliad o dan yr un brydles wedi'u had-dalu, gallai'r Cyngor wneud un gorchymyn mewn perthynas â'r holl rent gwaharddedig nad yw wedi'i ad-dalu.
Proses
Mae'r penderfyniad i roi, a'r broses o roi, cosb ariannol a/neu orchymyn adennill yn digwydd mewn sawl cam:
- Ymchwiliad i'r achos honedig o dorri'r Ddeddf
- Penderfynu ar ddifrifoldeb y toriad
- Hysbysiad o fwriad i roi cosb ariannol a/neu orchymyn adennill
- Cyfnod ar gyfer sylwadau ysgrifenedig
- Adolygiad o'r sylwadau hynny, os ydynt wedi'u darparu
- Hysbysiad terfynol yn gosod y gosb ariannol a/neu'r gorchymyn adennill
Gallai'r Cyngor gyflwyno un hysbysiad o fwriad ac un hysbysiad terfynol mewn perthynas â chosb ariannol a gorchymyn adennill[2].
Mathau eraill o gamau gorfodi y gellir eu cymryd
Bydd y Cyngor yn penderfynu ar y sancsiwn mwyaf priodol ac effeithiol ac a ddylid gosod cosb ariannol a/neu orchymyn adennill. Mewn amgylchiadau addas, rhoddir ystyriaeth i gamau gweithredu llai ffurfiol megis llythyrau rhybudd neu gyngor i sicrhau cydymffurfiaeth, yn unol â pholisi gorfodi perthnasol y Cyngor.
[1]Adran 10(2)Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022
[2]Atodlen a.2(2) a 5(3)Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022