Polisi Gorfodi Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022
Cam 2 - Mannau cychwyn ac ystod y categorïau
Ar ôl pennu'r categori y mae'r tramgwydd yn perthyn iddo, bydd y Cyngor yn cyfeirio at y mannau cychwyn ac ystodau'r categorïau isod i gyrraedd lefel briodol o gosb ariannol.
Bydd y Cyngor wedyn yn ystyried addasiadau pellach o fewn ystod y categorïau ar gyfer nodweddion gwaethygol a lliniarol.
Amrediad | Man Cychwyn (£) | Isafswm (£) | Uchafswm (£) |
Beiusrwydd Isel/Dim |
|
|
|
Niwed Isel | 1,000 | 500 | 1,500 |
Niwed Canolig | 1,500 | 1,000 | 2,000 |
Niwed Uchel | 2,000 | 1,500 | 2,500 |
Beiusrwydd Canolig |
|
|
|
Niwed Isel | 3,500 | 2,500 | 4,500 |
Niwed Canolig | 4,500 | 3,500 | 5,500 |
Niwed Uchel | 5,500 | 4,500 | 6,500 |
Beiusrwydd Uchel |
|
|
|
Niwed Isel | 8,000 | 6,000 | 10,000 |
Niwed Canolig | 9,500 | 7,500 | 11,500 |
Niwed Uchel | 11,000 | 9,000 | 13,000 |
Beiusrwydd Uchel Iawn |
|
|
|
Niwed Isel | 15,000 | 11,000 | 19,000 |
Niwed Canolig | 16,500 | 13,000 | 21,000 |
Niwed Uchel | 22,500 | 15,000 | 30,000 |
Tramgwyddau Lluosog
Yn gyffredinol, dim ond un gosb ariannol y mae landlord, neu unigolyn ar ei ran, sy'n cyflawni tramgwyddau lluosog mewn perthynas â'r un brydles yn gyfrifol amdani.[1]. Ond byddant yn agored i gosb bellach os, ar ôl cael cosb ariannol yn flaenorol am dramgwydd cynharach, y byddant wedyn yn cyflawni tramgwydd pellach mewn perthynas â'r un brydles honno.[2]
Lle mae unigolyn wedi cyflawni un neu fwy o dramgwyddau mewn perthynas â dwy les neu fwy, gallai'r Cyngor hefyd ddewis gosod cosb ariannol sengl mewn perthynas â'r holl dramgwyddau hynny gyda'i gilydd.[3]. Os gosodir cosb unigol mewn perthynas â thramgwyddau lluosog, rhaid i swm y gosb beidio â bod yn llai na'r cyfanswm lleiaf, a rhaid iddo beidio â bod yn fwy na'r cyfanswm uchaf, y gellid neu a fyddai wedi'i osod pe bai pob tramgwydd wedi'i gosbi ar wahân.
Cael gwybodaeth ariannol
Mae'r canllawiau statudol yn cynghori y gallai cael gwybodaeth ariannol gan y landlord helpu gydag ystyried beth yw man cychwyn ac ystod briodol, yn seiliedig ar fodd y landlord. Mewn achos lle mae'r landlord yn gorff corfforaethol, gallai'r Cyngor ystyried gwybodaeth sydd ar gael am ei drosiant neu'r hyn sy'n cyfateb iddo[4].
Mae gan y Cyngor bwerau ymchwilio o dan Atodlen 5 Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 i ymchwilio i achosion o dorri'r Ddeddf.
[1]Adran 9(3)Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022
[2]Paragraff 5.2Canllawiau Statudol Llywodraeth Cymru
[3]Adran 9(5)Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022
[4]Paragraff 6(4)(b)Canllawiau Statudol Llywodraeth Cymru