Toglo gwelededd dewislen symudol

Blynyddoedd Rhyfeddol

Cyfres o raglenni sy'n cyd-fynd ac yn cyd-gysylltu yw'r rhaglenni Blynyddoedd Rhyfeddol ar gyfer rhieni, athrawon a phlant. Bwriad y rhaglenni yw gweithio ar y cyd i hyrwyddo gallu emosiynol, cymdeithasol ac academaidd, ac i atal problemau ymddygiad ac emosiynol mewn plant ifanc.

Blynyddoedd Rhyfeddol i Rieni

Ein gobaith yw y bydd pob rhiant yn mwynhau 'Blynyddoedd Rhyfeddol' eu plant, ond bod yn rhiant, heb amheuaeth, yw'r gwaith anoddaf oll. Gyda hyn mewn golwg, mae cyfleoedd ar draws Powys i rieni ymuno yn y grwpiau Blynyddoedd Rhyfeddol canlynol:

  • Eich Baban Rhyfeddol
  • Eich Plentyn Bach (Toddler) Rhyfeddol
  • Eich Plentyn Rhyfeddol
    Boy reading

Grŵp Eich Baban Rhyfeddol

Rhaglen ffurflen dros 9 wythnos ar hunan-ofal i rieni, a drefnir gan hwyluswyr y Blynyddoedd Rhyfeddol, sy'n helpu eich baban i deimlo'n ddiogel a sicr yn ogystal ag annog datblygiad iaith, cymdeithasol a chorfforol.  Mae hefyd yn eich helpu chi i ddeall eich baban, datblygiad yr ymennydd a sut i ddarllen arwyddion eich baban.  Bydd y sesiynau'n para awr a hanner yr wythnos i rieni/gofalwyr.

Grŵp eich Plant Bach Rhyfeddol

Grŵp ffurfiol i rieni/gofalwyr a drefnir gan hwyluswyr hyfforddedig y Blynyddoedd Rhyfeddol sy'n cyflwyno rhieni i ddulliau i'w galluogi i ddatblygu ymlyniad cryf gyda'u plentyn, helpu gyda'u datblygiad ieithyddol, cymdeithasol ac emosiynol yn ogystal â'u cadw nhw'n ddiogel.  Hefyd helpu rhieni gyda materion nodweddiadol megis tymer ddrwg ac amser gwely.  Rhaglen 12 wythnos am awr a hanner y sesiwn.

Grŵp eich plentyn Rhyfeddol

Rhaglen ffurfiol dros 12 wythnos a drefnir gan hwyluswyr hyfforddedig y Blynyddoedd Rhyfeddol ar sut i ddatblygu ymlyniad cryf â'r plentyn a hybu datblygiad cymdeithasol, emosiynol ac academaidd eich plentyn.  Mae hefyd yn hyrwyddo ymddygiad positif sy'n lleddfu problemau yn y cartref ac yn yr ysgol.  Bydd pob sesiwn yn para tua awr ac ar gyfer rhieni/gofalwyr plant 3 - 10 oed.