Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

'Cynllun Arbed Ynni Powys Cymru Gynnes' Tystebau

testimonials

Derbyniais reiddiaduron newydd, pibellau newydd, a pheiriant newydd gyda'r ASHP a chefais y dewis o ddau leoliad i roi hwn yn y tŷ, sydd bellach wedi'i guddio mewn cwpwrdd. Rwyf wrth fy modd gyda'r gosodiad gan fod y gweithwyr wedi gorchuddio fy holl garpedi a dodrefn oherwydd roeddwn yn poeni am y glanhau, y sŵn a'r llwch. Dywedodd y gweithwyr wrthyf y byddent  hyd yn oed yn gofalu am hyn fel pe bai hwn yn gartref iddyn nhw eu hunain, ac ar ôl ei orffen allwn i ddim stopio gwenu.

Mae mynd yn wyrddach yn teimlo'n dda gan fy mod yn arfer talu £44 y mis, a nawr mae gen i obsesiwn gyda fy ap ar y ffôn oherwydd ei fod yn arbed arian i mi ac mae'r swm yr ydym yn ei arbed yn wych. Mae angen y pecyn cyflawn o ASHP, solar a batris i wneud i hyn weithio. Ddoe gwariais 1c ar ynni ac erbyn 10am y bore wedyn mae'r batris wedi'u gwefru'n llawn eto, diolch i'r paneli solar.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw meddwl am yr hyn yr ydych yn ei wneud a phryd wrth i ni i gyd gadw at ein trefn arferol. Nid oedd newidiadau bach i'm trefn arferol yn broblem, ac roedd yr awgrymiadau gan y contractwyr yn ddefnyddiol iawn.

Mae ychwanegu'r Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer (ASHP) a'r batri i'r bwthyn wedi bod yn anhygoel. O'r diwrnod cyntaf roeddwn i'n gallu cael dŵr poeth. Roedd gallu mwynhau gwresogi effeithlon yn fy nghartref am y tro cyntaf yn teimlo'n wyrthiol ar ôl cymaint o frwydro. Mae wedi newid fy mywyd.

Roedd Cyngor Powys yn dda iawn. Cymerodd y swyddog amser i ddeall y problemau a wynebwn, a oedd ychydig yn gymhleth ac anarferol. Mae fy eiddo rhent yn eithaf hynod. Cefais fy syfrdanu mewn gwirionedd, ar ôl iddi gyfathrebu â Chymru Gynnes, fy mod yn sgwrsio â chynrychiolydd y contractwyr o fewn pythefnos a bod gennyf apwyntiad i gael asesiad wedi'i drefnu.

Y peth gorau am y cais oedd y ffaith fod y cyfathrebu mor hawdd. Fe wnaeth yr aseswyr weithredu'n gyflym. Cyrhaeddon nhw yn brydlon, fe gymeron nhw amser i fesur a thrafod fy anghenion o ran lleoli'r rheiddiaduron. Eglurwyd y lleoedd gorau i osod yr offer newydd ac ati. Roedd y ddau aseswr yma am un prynhawn yn unig. Ychydig iawn o aflonyddwch a achoswyd i mi felly.

Aeth y paneli PV i fyny mewn diwrnod. Rwy'n meddwl bod y rheiddiaduron a'r ASHP wedi cymryd mwy o amser ond dim llawer.

Cofrestrais i gael cymorth i allforio fy nhrydan oherwydd yn ystod y dyddiau cynhesach mae'r defnydd o drydan gen i yn fach iawn. Mae'n rhaid i mi gyfaddef ers cael mesurydd clyfar fy mod yn edrych yn gyson ar faint dwi'n ei fewnforio ac allforio. Rwyf wrth fy modd yn darllen y mesurydd nawr. Yn amlwg byddaf yn defnyddio digon o drydan yn ystod misoedd oerach ond rwy'n edrych ymlaen at wario llawer llai nag oeddwn i'n ei wario ar goed a dod adref o'r gwaith i dŷ cyfforddus.

Rwy'n ei chael hi'n llawer haws cadw fy nhŷ yn lân ac mae ansawdd yr aer yn well.

Rwy'n hapus iawn gyda'r gwaith uwchraddio. Byddwn yn rhoi 10 allan o 10 i'r cynllun. Mae'n gyfle mor eithriadol o wych i ddod â chysur i hen gartrefi.