Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

'Cynllun Arbed Ynni Powys Cymru Gynnes' Cwestiynau ac Atebion

FAQ

Beth yw Cynllun Arbed Ynni Powys Cymru Gynnes a phwy sy'n ei ariannu?

Mae Cynllun Arbed Ynni Powys Cymru Gynnes ar gael i drigolion cymwys Powys trwy Gwmni Buddiannau Cymunedol 'Cymru Gynnes', sydd i fod i helpu i ymdrin â phroblem gynyddol tlodi tanwydd i'n trigolion. Mae'n cynnig cyllid ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni gyda dull 'tŷ cyfan' o wella'ch eiddo. Ariennir y cynllun bron yn ei gyfanrwydd gan y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO), sef cynllun effeithlonrwydd ynni'r llywodraeth a weinyddir gan OFGEM. Bydd ECO4 yn gynllun pedair blynedd yn gweithredu o Ebrill 1af, 2022, i Fawrth 31ain, 2026. Lle mae ar gael, mae Cyngor Sir Powys hefyd wedi sicrhau bod cyllid ar gael i gyfrannu at elfennau effeithlonrwydd ynni nad ydynt yn cael eu hariannu gan ECO4 ar ffurf grant bach a/neu fenthyciadau di-log.

Sut mae cymhwyso, pa welliannau sydd ar gael ac a oes unrhyw gost i mi?

Mae cyllid ar gael ar gyfer eiddo sydd â sgôr E, F neu G EPC.  Gellir hefyd ystyried eiddo gyda sgôr D fesul achos, ond mae'r cyllid a'r mesurau sydd ar gael yn gyfyngedig. Fel rhan o'r broses gymhwyso, mae'n rhaid i chi fodloni'r trothwy incwm net hael a osodwyd ar ôl i dreuliau cartref sy'n cael eu caniatáu (morgais/rhent/treth y cyngor/pob bil tanwydd) gael eu tynnu o'ch incwm net yn gyntaf ac fe'i gosodir yn dibynnu ar gyfansoddiad eich cartref. Nid yw unrhyw gynilion yn effeithio ar eich cymhwyster o gwbl, ond mae incwm a dderbynnir ohonynt yn atebol at ddibenion cymhwyso. Os byddwch yn derbyn unrhyw fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm, budd-dal tai neu dreth y cyngor neu os ydych yn dioddef o gyflyrau iechyd penodol sy'n bodoli eisoes, byddwch yn gymwys yn awtomatig heb fod angen darparu tystiolaeth incwm.

Y mesurau sydd ar gael o dan y cynllun yw: Inswleiddio Llofftydd, Inswleiddio Ystafell yn y To, Inswleiddio To Fflat, Inswleiddio Waliau Ceudod, Inswleiddio Waliau Solet (Mewnol neu Allanol), Inswleiddio o dan y Llawr, Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer a System Gwres Canolog wedi'i hadnewyddu/newydd, Rheolaethau Gwresogi Clyfar (TTZCs), Paneli trydan solar (PV) ac yn amodol ar y gronfa, grant neu fenthyciad di-log tuag at Fatri Solar a Goleuadau Arbed Ynni.

Cynigir pob prosiect wedi'i ariannu'n llawn, heb UNRHYW daliad cychwynnol gennych chi (ac eithrio batris a goleuadau arbed ynni sy'n amodol ar y cyllid sydd ar gael). Mae benthyciadau di-log ar gael yn ad-daladwy yn seiliedig ar arbedion ynni dros 5 mlynedd gan ein partneriaid Cronfa Bancio Cymunedol Robert Owen (sy'n gweinyddu arian ar ran Cyngor Sir Powys). Bydd Cydlynydd y Cynllun yn rhoi gwybod i chi a ydych wedi cymhwyso am y Batri Solar AM DDIM neu gyda chymorth.

Fedra' i ddewis pwy sy'n gosod yr offer?

Yn syml, NA FEDRWCH. Er mwyn ei osod o dan Gynllun Arbed Ynni Powys Cymru Gynnes rhaid i bob contractwr fod wedi cyflawni'r cymwysterau a gwiriadau achrededig perthnasol y Llywodraeth a bod â mynediad at gyllid ECO. Mae ein panel o osodwyr wedi'u fetio'n llawn ac wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw gan ein cynllun ar ôl cwblhau gosodiadau blaenorol ar gynlluniau eraill i safon eithriadol o uchel.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn symud neu'n gwerthu'r tŷ ar ôl cwblhau'r gwaith?

Nid oes unrhyw ymrwymiad nac ad-daliad os byddwch yn symud neu werthu eich eiddo UNRHYW amser ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau. Yn wir, ar yr amod bod eich eiddo newydd yn gymwys, gallwch wneud cais i wella eich cartref newydd ar yr amod ei fod yn bodloni'r meini prawf cymhwyso hefyd.

Beth yw'r broses ar ôl i mi gael fy nghymeradwyo ar y Cynllun ac alla' i ddewis pa fesurau a/neu wneuthurwr a gaf?

Er mwyn ffurfioli cymhwyster ac i benderfynu pa fesurau sydd wedi'u cymeradwyo/ariannu i'w gosod bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o'ch incwm a darparu Bil Treth y Cyngor a Thrydan a fydd, o'i dderbyn, yn ein galluogi i gyfarwyddo Asesiad Ôl-osod (Arolwg Cyllid) ac Arolwg Technegol (Arolwg Gosod). Gallai'r arolygon hyn gymryd 2-4 awr a'n galluogi i asesu aneffeithlonrwydd ynni eich eiddo, sy'n pennu faint o gyllid sydd ar gael i chi. Po leiaf ynni effeithlon yw eich eiddo, y mwyaf o arian sydd ar gael i wella eich cartref. RHAID gosod POB mesur sydd wedi'i gymeradwyo ar gyfer cyllid fel rhan o brosiect yr holl welliannau effeithlonrwydd ynni i'ch eiddo. Ni fydd unrhyw brosiectau rhannol yn cael eu cyflawni. Pennir pa fesurau a osodir gan yr arbedion sy'n gorbwyso cyfanswm cost gosod pob mesur gwella dros oes y mesurau. NID ydych yn gallu 'dewis' y mesurau neu'r gwneuthurwr rydych chi ei eisiau. Hefyd, dim ond rhai mesurau sy'n gymwys ac maent yn dibynnu ar osod mesur arall megis Paneli Solar a Phwmp Gwres Ffynhonnell Aer. Unwaith y byddwn wedi modelu eich eiddo yn seiliedig ar y cyllid sydd ar gael, byddwn yn rhoi gwybod i chi pa fesurau y gallwn eu gosod ac yn cytuno ar ddyddiad gosod ar gyfer pob mesur. Os gofynnwn, rydym yn barod i roi manylion y mesurau/systemau a osodir i chi gan gynnwys unrhyw gyfrifiadau dylunio ac addasiadau (fel newidiadau i reiddiaduron) sy'n ofynnol i'ch eiddo.

Ydw i'n derbyn Contract, a pha Warant neu Warantiadau ydw i'n eu derbyn o ran y saernïaeth?

Gan nad yw'r gwelliannau fel arfer yn golygu unrhyw gost ichi, mae'r contract ar gyfer y gwaith rhwng y cwmni sy'n gosod a'r cyllidwr, felly ni fyddwch yn derbyn contract. Er hynny, nid yw hyn yn bychanu mewn unrhyw ffordd ansawdd/saernïaeth eich gwaith.  Mae pob mesur yn dod gyda gwarant llawn o ran saernïaeth sy'n ddilys am o leiaf 2 flynedd sy'n cynnwys holl fesurau'r prosiect, gwaith uwchraddio, yn ogystal â gwarant a ategir gan yswiriant (IBG), rhag ofn y bydd y gosodwr yn mynd allan o fusnes. Hefyd mae gwarant y cynhyrchydd yn berthnasol i bob mesur.  Mae gwarant 10-25 mlynedd ar insiwleiddio, gwarant 2-7 mlynedd ar Bwmp Gwres Ffynhonnell Aer, ac fel arfer mae gwarant 5-10 mlynedd yn berthnasol ar gyfer gwaith Solar paneli ffofoltaig ar gyfer y Gwrthdröydd a'r Batri, a 25 mlynedd ar gyfer y paneli Solar Ffotofoltaig.

Sut mae Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer yn gweithio? Ydyn nhw'n fwy effeithlon na mathau eraill o wresogi?

Mae Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer yn tynnu gwres o'r aer allanol yn yr un modd ag y mae oergell yn tynnu gwres o'i thu mewn. Mae'n gallu echdynnu gwres o'r aer hyd yn oed pan fo'r tymheredd mor isel â -22°C, gan ei fod yn defnyddio rhewydd soffistigedig yn yr uned sy'n berwi ar tua -25°C, i ddechrau cynhyrchu ei ynni cudd adnewyddadwy. Yn wahanol i foeleri nwy ac olew, mae pympiau gwres yn darparu gwres ar dymheredd is (35-55°C) dros gyfnodau llawer hirach. Mae'r tymheredd llif sydd ei angen yn cael ei bennu gan nodweddion inswleiddio eich eiddo. Po leiaf effeithlon yw'r eiddo o ran ynni, yr uchaf y mae angen i'r tymheredd llif fod i'w gynhesu'n effeithiol. Mae pob eiddo yn wahanol, a bydd gan bob system ei dyluniad pwrpasol ei hun i sicrhau'r effeithiolrwydd a'r effeithlonrwydd mwyaf posibl. Bydd pob ystafell yn cael ei gwresogi'n llawn gyda system gwres canolog wlyb. Er mwyn gwneud iawn am dymheredd llif is y system wresogi newydd, rydym yn sicrhau bod rheiddiaduron a phibellau (dim microbore) yn addas ac yn ddigon mawr (a byddant yn cael eu hamnewid lle bo angen) i ollwng digon o wres i bob ystafell.

Mae ar bympiau gwres angen trydan i weithredu (fel pob boeler arall), ond mae'r gwres y maent yn ei dynnu o'r aer yn cael ei adnewyddu'n naturiol yn gyson, gan ei wneud yn oddeutu 300% effeithlon o'i gymharu â boeler olew/nwy sydd ond yn 50-93% effeithlon! Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael 3KW o wres yn ôl am bob KW o ynni rydych chi'n ei wario! Mae arbedion nodweddiadol yn 15-30% o'i gymharu â Boeler Olew, 25-50% o'i gymharu â Boeler LPG neu Danwydd Solet a dros 50% ar gyfer gwresogi Trydan! Wrth gwrs, pe bai Rheolaethau Clyfar, PV Solar a Storio mewn Batri Clyfar yn cael eu cyflwyno fel rhan o'ch prosiect gosod, mae'r arbedion cymaint â 75% ar eich costau ynni cyfredol a bydd BOB AMSER yn fwy effeithlon nag UNRHYW fath o ddull gwresogi arall a ddefnyddir ar hyn o bryd, gan gynnwys y Prif Gyflenwad Nwy!

Ar hyn o bryd rwy'n defnyddio fy Range cooker neu fy Nhân Agored i gynhesu fy ystafell/dŵr neu i wresogi, a allaf ei gadw?

Ethos y prosiect yw gwneud eich tŷ mor effeithlon o ran ynni â phosibl. Tân agored yw un o'r ffyrdd lleiaf effeithlon o wresogi ystafell/tŷ, gan fod y rhan fwyaf o'r gwres (tua 60%) yn mynd drwy'r simnai a gallai achosi drafftiau a llif aer na ellir eu cyfyngu na'u rheoli. Mae hefyd yn cynyddu'r galw am wres yn yr ystafell/tŷ yn fawr gan olygu y byddai Pwmp Gwres o  Ffynhonnell Aer a rheiddiadur/rheiddiaduron ar gyfer yr ystafell yn rhy fawr o lawer neu y byddent hyd yn oed yn gwbl anaddas! Gan ein bod yn buddsoddi yn eich effeithlonrwydd ynni byddai'n werth ystyried cau'r simnai/tân neu fuddsoddi mewn llosgydd coed caeedig newydd. Bydd yr arolwg technegol yn pennu pa gamau (os o gwbl) sydd eu hangen.

Hefyd, un o amodau'r cynllun yw bod 100% o'r galw am wres A dŵr yn eich eiddo yn cael ei fodloni gan y system wresogi newydd. Mae rhannu elfennau gwresogi i fodloni'r galw am wres a/neu ddŵr yn yr eiddo hefyd yn anghydnaws, o bosibl yn beryglus, ac yn erbyn rheoliadau gosod a byddai hyn yn arwain at fethiant a/neu ddifrod i'r Pwmp Gwres. Os bydd eich Range Cooker neu'ch Llosgwr Coed/Tân Agored yn gwneud hyn bydd angen ei ddatgysylltu o'r system.

Pa mor hir mae'n ei gymryd i osod y prosiect ac a fydd yna lawer o aflonyddwch?

Mae hyn yn dibynnu ar faint a natur y gwaith sy'n gysylltiedig â phob prosiect. Ar gyfer systemau gwresogi newydd a PV Solar, mae hyn fel arfer yn cael ei gwblhau mewn 2-3 diwrnod a bydd bron yn sicr yn golygu ailosod rhai neu'r holl bibellau a rheiddiaduron. Bydd unrhyw bibellau newydd mewn copr, ac wedi'u gosod ar y wal. Gallai'r pibellau ddal i fod yn weladwy neu wedi'u gorchuddio â chwndid (trunking), gan gadw unrhyw bibellau neu geblau gweladwy newydd i isafswm lle bo modd. Bydd unrhyw waith sydd angen ei wneud ar y waliau/nenfydau/lloriau yn cael ei atgyweirio a'i lenwi. Os nad oes gennych chi silindr dŵr yn yr eiddo ar hyn o bryd, bydd angen i ni wneud lle ar gyfer ystafell offer ar gyfer y Silindr Ffynhonnell Aer ac Ategolion ynghyd â'r gwrthdröydd a batri PV Solar (os na chaiff ei roi yn y llofft). Y maint sydd ei angen yw tua 1.5m x 1m. Pe bai hyn yn broblem (yn amodol ar gyllid) efallai y bydd modd gosod y silindr mewn garej/tŷ allan neu sied wedi'i chodi'n arbennig y tu allan. Pe bai angen insiwleiddio Waliau Mewnol neu Inswleiddio Ystafell yn y To ar eich gosodiad, gallai hyn greu tipyn o aflonyddwch gan y bydd angen insiwleiddio pob wal allanol ac ail-sgimio'r waliau. Gallai hyn gymryd unrhyw beth rhwng 2-6 diwrnod, yn dibynnu ar faint eich eiddo ac ychwanegu 50-75mm ychwanegol at drwch y wal. Bydd pob silff ffenestr a gwaith thrydan yn cael eu hadfer i'w cyflwr gwreiddiol; ond chi fydd yn gyfrifol am ailaddurno ac ailosod y byrddau sgyrtin ar y waliau yr effeithir arnynt.

Sut mae'r Cynllun hwn yn effeithio ar fy eiddo i?

Fel perchennog yr eiddo a/neu ddefnyddiwr yr ynni, gall y cyfle ariannu hwn fod gwerth degau o filoedd o bunnoedd, a chaiff ei gynnig ar sail cyllid llawn. Yn eu tro bydd y gwelliannau i'ch eiddo yn ychwanegu gwerth sylweddol ac yn trawsnewid effeithlonrwydd ynni eich eiddo (fel arfer bydd prosiectau'n codi cyfradd SAP i B), gyda thoriadau arwyddocaol i gostau cynnal a chadw, ac yn arbed hyd at 75% ichi neu'ch tenant mewn perthynas â chostau rhedeg tanwydd (yn dibynnu ar y math o danwydd a ddefnyddir ar hyn o bryd, ac oedran y system). Hefyd bydd yn helpu lleihau newid hinsawdd, gan gynnig ateb ynni adnewyddadwy glân, soffistigedig, gan leihau eich ôl-troed carbon yn sylweddol.

A oes angen y Rhyngrwyd a Mesurydd Clyfar arnaf ac a oes angen i mi newid fy Narparwr/Tariff Trydan?

Er mwyn gosod Batri Solar o dan y Cynllun, bydd angen cysylltiad rhyngrwyd a Wi-Fi arnoch. Hefyd bydd Mesurydd Clyfar yn rhoi'r gallu i chi gael mynediad at yr holl opsiynau arbed ynni sydd ar gael i'ch system newydd. Yn ogystal, i wneud y mwyaf o'ch potensial i arbed ynni bydd angen i chi gael mynediad at dariff 'amser defnyddio' (fel Octopus Agile). Mae hyn yn eich galluogi i brynu a gwerthu trydan cyfanwerthol ar yr adegau gorau. Bydd eich Batri yn storio trydan o'r grid pan fydd y gost fesul kW ar ei rhataf ac yn gwerthu pan nad oes angen ynni ar adegau brig pan fo'r pris yn uchel. Peidiwch â phoeni, mae'r gwrthdröydd a'r batri hybrid yn cysylltu â'ch mesurydd clyfar i fonitro costau pris trydan bob 30 munud i benderfynu'n awtomatig pryd i 'brynu a gwerthu' eich ynni. Bydd gofyn cael mesurydd clyfar a mynediad at y rhyngrwyd ar gyfer y gwasanaeth hwn.

A fyddaf yn berchen ar yr offer? Pwy sy'n gyfrifol am wasanaethu/cynnal a chadw'r offer?

Ym mhob amgylchiad chi fydd yn berchen ar unrhyw offer a osodir o dan y cynllun o'r diwrnod cyntaf ac mae unrhyw arbedion neu fuddion o'r mesurau a osodir (fel PV Solar) yn eiddo i chi i'w mwynhau'n llawn ac i elwa arnynt. Rydych chi'n cadw rheolaeth lawn ar yr offer ac yn gyfrifol am gostau gwasanaethu a chynnal a chadw arferol y tu allan i warant yr offer.

Rwy'n landlord ac yn rhentu eiddo, a allaf gael budd o'r cynllun hwn?

Wrth gwrs! Fel perchennog yr eiddo, gallwch ddefnyddio'r cynllun (yn amodol ar gymhwyster tenant ac eiddo) ar gyfer pob eiddo cymwys. Rwy'n siŵr y bydd eich tenant yn gwerthfawrogi ac yn elwa o'r arbedion tanwydd a'r cynnydd mewn effeithlonrwydd ynni ac effeithiolrwydd byw mewn cartref cynhesach, o ganlyniad i osod