Toglo gwelededd dewislen symudol

'Cynllun Arbed Ynni Powys Cymru Gynnes' Cefndir

background

Ym Mhowys, rydym wedi parhau â'n trefniant partneriaeth gyda Cymru Gynnes, Cwmni Budd Cymunedol, sy'n arbenigo mewn rheoli tlodi tanwydd a chyflawni prosiectau arbed ynni.

Lansiwyd 'Cynllun Arbed Ynni Powys Cymru Gynnes' ym mis Tachwedd 2022, ac mae'n cynnwys y cyfle i roi cymorth i aelwydydd nad ydynt yn cael budd-daliadau prawf modd ac mae'n ystyried aelwydydd a allai fod yn byw mewn tlodi tanwydd neu ar incwm isel ac sy'n agored i effeithiau byw mewn cartref oer.

Yn dangos llwyddiant cyflwyno'r rhaglen hon, mae clwstwr bach o dai yng nghanol y sir yn dangos dull 'tŷ cyfan' at arbed ynni drwy osod y dechnoleg ddiweddaraf, gyda systemau gwres carbon isel fel pympiau gwres ffynhonnell aer (ASHP) a system cynhyrchu ynni drwy system ffotofoltäig solar (PV) yn gysylltiedig â batris storio ynni. Yn llythrennol bu cyffro mawr ar y stad ynghylch ynni ac mae nifer o gartrefi wedi cael gosodiadau hyd yn hyn.

Mae'r cymorth grant tuag at y gosodiadau wedi cefnogi preswylwyr i wella eu safonau ansawdd byw, yn enwedig gan fod rhai preswylwyr angen i'w cartref fod ar dymheredd cyson drwy ei gadw'n gynnes drwy gydol y flwyddyn.

Mae pryderon naturiol gan berchnogion tai ynghylch yr aflonyddwch yn y cartref, ond mae'r preswylwyr hyn wedi profi newid cadarnhaol ac yn edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth yn ystod misoedd oerach yr hydref a'r gaeaf pan fydd eu defnydd o ynni yn cynyddu.

Darllenwch dystebau gan drigolion Powys sydd wedi elwa o arian ECO

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu