Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ebost Fy Nghyfrif Powys

Croesawu ceisiadau i ysgolion uwchradd

Image of secondary school pupils in uniform running

19 Medi 2023

Image of secondary school pupils in uniform running
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud ei fod nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer plant fydd yn mynd i ysgol uwchradd ym mis Medi 2024.

Mae gan rieni neu ofalwyr plant blwyddyn chwech tan ddydd Gwener 10 Tachwedd 2023 i anfon cais.

Dywedodd y Cyng Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn annog pob rhiant/gofalwr i lenwi'r ffurflen gais yma cyn gynted â phosibl er mwyn cael lle mewn ysgol uwchradd fis Medi 2024.

"Os na fydd wedi'i llenwi mewn pryd, yna mae'n bosibl y bydd hyn yn bygwth lle eich plentyn yn yr ysgol mae wedi'i dewis."

Dylai rhieni / gofalwyr lenwi ffurflen gais ar-lein yn Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol erbyn dydd Gwener 10 Tachwedd 2023.

Os nad ydych yn gallu gwneud hynny ar-lein, cysylltwch â admissions@powys.gov.uk

Os nad ydych yn byw yn agos at ysgol, efallai y bydd eich plant yn gymwys i gael cludiant am ddim. Mae'r meini prawf yn wahanol ar gyfer gwahanol fathau o ysgolion, felly gwiriwch yn ofalus i ddarganfod a ydych chi'n gymwys ai peidio trwy ddarllen y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, sydd ar gael ar dudalen: Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu