Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol
Gallwch weld yr amserlen derbyn ac apeliadau yma
Cais am Leoliad Cyn Ysgol (3 a 4 oed)
Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2024-25 (PDF, 637 KB)
Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2025-26 (PDF, 2 MB)
Gwybodaeth am sut i wneud cais am le cyn-ysgol yma
Cais am le mewn Ysgol Gynradd
Mae'r Rownd Derbyniadau Ysgol Gynradd hwn wedi'i fwriadu ar gyfer dysgwyr Powys a anwyd rhwng 01/09/20 - 31/08/21 bellach ar gau.
Y dyddiad cau ar gyfer y cylch derbyn oedd dydd Llun 6 Ionawr 2025.
I wneud cais hwyr ar gyfer grŵp blwyddyn Derbyn Medi 2025, cwblhewch y ffurflen gais Trosglwyddo Yn Ystod Blwyddyn sydd i'w chael ar waelod y we-dudalen hon.
Un garfan sydd gan ysgolion cynradd Awdurdod Lleol Powys ymhob blwyddyn ysgol, sy'n cychwyn ar ddechrau tymor yr Hydref wedi i blentyn gyrraedd ei ben-blwydd yn 4 oed.
Sylwer:
Dyddiad Cynnig Cyffredin Ysgolion cynradd yw Dydd Mercher 16 Ebrill 2025.
Nid yw bod â lle mewn dosbarth meithrin neu gyn-ysgol yn gwarantu y bydd y plentyn yn cael lle yn y brif ysgol pan fydd yn cyrraedd ei 4 oed. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am le yn y brif ysgol. Os nad ydych chi'n gwneud cais, a'r ysgol rydych chi wedi'i dewis yn llawn, bydd yr ysgol yn cadw'r lle i'r rheiny sydd wedi eisoes gwneud cais.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2025-26 (PDF, 2 MB)
Dalgylchoedd Ysgolion Cynradd Dalgylchoedd Ysgolion Cynradd 2025
Dalgylchoedd Ysgolion Cynradd Cyfrwng Cymraeg Dalgylchoedd Ysgolion Cynradd Cyfrwng Cymraeg 2025
Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma
Cais am le mewn Ysgol Uwchradd
Mae'r Rownd Derbyniadau Ysgol Gynradd hwn wedi'i fwriadu ar gyfer dysgwyr Powys a anwyd rhwng 01/09/13 - 31/08/14 bellach ar gau.
Y dyddiad cau ar gyfer y cylch derbyn oedd dydd Gwener 8 Tachwedd 2024.
I wneud cais hwyr ar gyfer grŵp blwyddyn 7 Medi 2025, cwblhewch y ffurflen gais Trosglwyddo Yn Ystod Blwyddyn sydd i'w chael ar waelod y we-dudalen hon.
Bydd Awdurdod Lleol Powys yn trefnu derbyniadau i ysgolion uwchradd yn ystod Tymor yr Hydref cyn dyddiad y trosglwyddo.
Sylwer:
Dyddiad Cynnig Cyffredin Ysgolion Uwchradd yw Dydd Llun 3 Mawrth 2025.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i
Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2025-26 (PDF, 2 MB)
Dalgylchoedd Ysgolion Uwchradd Dalgylchoedd Ysgolion Uwchradd 2025
Dalgylchoedd Ysgolion Uwchradd Cyfrwng Cymraeg Dalgylchoedd Ysgolion Uwchradd Cyfrwng Cymraeg 2025
Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma
Cais am Drosglwyddo yn Ystod y Flwyddyn
Nid ydych yn newid cartref: Os ydych am drosglwyddo'ch plentyn i ysgol wahanol ar unrhyw adeg (ac eithrio ar gyfer symud tŷ), dylech drafod hyn gyda Phennaeth yr ysgol bresennol. Yna dylech fynd at Bennaeth yr ysgol rydych wedi'i dewis, a thrafod y posibilrwydd o dderbyn, gan egluro pam yr hoffech chi newid ysgolion.
Rydych yn newid cartref: Lle gwneir cais oherwydd eich bod wedi symud tŷ, gwnewch yn siŵr bod digon o rybudd i'r trosglwyddiad gael ei ystyried a'i drefnu. Ni all y Tîm Derbyniadau ystyried ceisiadau hyd nes derbyn cadarnhad o ddiwrnod symud.
Os cymeradwyir eich cais am drosglwyddo, bydd eich plentyn yn newid ysgol ar ddechrau tymor neu hanner tymor.
Gwnewch gais am drosglwyddo yn ystod y Flwyddyn yma.
Cais am Drosglwyddo yn Ystod y Flwyddyn yma
Application form for a school place_cym
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i
Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2024-25 (PDF, 637 KB)
Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma
Cysylltiadau ar gyfer ymholiadau ynghylch derbyniadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma