Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Croesawu ceisiadau i ysgolion cynradd ac iau

Image of a primary school classroom

2 Hydref 2023

Image of a primary school classroom
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud ei fod nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer plant fydd yn mynd i ysgol gynradd ac iau ym mis Medi 2024.

Mae gan rieni neu ofalwyr tan ddydd Gwener 5 Ionawr 2024 i anfon cais.

Dywedodd y Cyng Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn annog pob rhiant/gofalwr i lenwi'r ffurflen gais yma cyn gynted â phosibl er mwyn cael lle mewn ysgol cynradd fis Medi 2023.

"Os na fydd wedi'I llenwi mewn pryd, yna mae'n bosibl y bydd hyn yn bygwth lle eich plentyn yn yr ysgol mae wedi'i dewis."

Dylai rhieni / gofalwyr lenwi ffurflen gais ar-lein yn Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol erbyn dydd Gwener 5 Ionawr 2024.

Os nad ydych yn gallu gwneud hynny ar-lein, cysylltwch â admissions@powys.gov.uk

Os nad ydych yn byw yn agos at ysgol, efallai y bydd eich plant yn gymwys i gael cludiant am ddim. Mae'r meini prawf yn wahanol ar gyfer gwahanol fathau o ysgolion, felly gwiriwch yn ofalus i ddarganfod a ydych chi'n gymwys ai peidio trwy ddarllen y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, sydd ar gael ar dudalen Gwneud Cais am Gludiant Ysgol