Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cwestiynau Cyffredin

Beth mae'r cynllunio yn ei wneud?

Mae'r system gynllunio yn rheoli datblygiad a defnydd tir er budd y cyhoedd, gan flaenoriaethu buddion cyfunol hirdymor, gan gyfrannu at wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Rhaid iddo gysoni anghenion datblygu a chadwraeth, gan sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac amwynder wrth ddefnyddio tir, sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy a diogelu, hyrwyddo, cadw a gwella'r amgylchedd adeiledig a hanesyddol.  

 

Sut mae cysylltu â fy swyddfa gynllunio?

E-bost: planning.services@powys.gov.uk

Ffôn: 01597826000

Cyfeiriad: Gwasanaethau Cynllunio, Neuadd Sir Powys, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

 

A oes angen caniatâd cynllunio arnaf:

Defnyddiwch y caniatad cynllunio prosiectau cyffredin hon os gwelwch yn dda i Gwybodaeth ynghylch a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer nifer o brosiectau cyffredin.

Os hoffech dderbyn cadarnhad ffurfiol gan yr awdurdod lleol a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich cynnig, yna gallwch gyflwyno Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon ar gyfer Defnydd neu Ddatblygiad Arfaethedig.

 

Sut mae sicrhau cyngor cyn ymgeisio?

Gall cyngor cyn ymgeisio helpu i wella ansawdd ceisiadau cynllunio. Gellir dod o hyd i fanylion y gwasanaeth cyn ymgeisio gan ddefnyddio'r Cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio hon.

 

A ddylwn i siarad â'm cymdogion cyn cyflwyno cais cynllunio?

Lle bo'n briodol, rydym yn annog pobl i siarad â'u cymdogion am ddatblygiadau arfaethedig cyn gynted â phosibl yn y broses. Gallai siarad â'ch cymdogion osgoi problemau rhag codi yn y dyfodol.

 

Beth yw'r prif gamau yn y broses ceisiadau cynllunio?

1. Cyflwyno cais cynllunio

2. Hysbysu ac ymgynghori ag ymgyngoreion cymunedol a statudol

  • Proses 21 diwrnod fel arfer.

3. Penderfynu ar y cais

  • Penderfynir ar geisiadau cynllunio yn unol â'r cynllun datblygu oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall.

4. Penderfyniad

  • Mae swyddogion cynllunio fel arfer yn penderfynu ar ddatblygiadau llai o dan bwerau dirprwyedig i wneud penderfyniadau.
  • Weithiau bydd y pwyllgor cynllunio yn penderfynu ar ddatblygiadau mwy a mwy dadleuol.

5. Opsiwn i apelio yn erbyn penderfyniad

  • Mae gan yr ymgeisydd hawl i apelio i Weinidogion Cymru, os yw'r awdurdod cynllunio lleol yn gwrthod rhoi caniatâd cynllunio, os ydynt yn ei roi yn ddarostyngedig i amodau annerbyniol neu eu bod yn methu â delio â chais o fewn y terfyn amser statudol.

 

A fydd y swyddog achos yn ymweld â safle'r cais cynllunio a'r ardal gyfagos?

Bydd swyddog o'r cyngor yn ymweld â safle'r cais ac fel arfer yn cymryd nodiadau a/neu luniau. Bydd y Swyddog Achos fel arfer yn gosod hysbysiad safle ar safle'r cais neu'n agos ato, gan roi manylion y cais cynllunio i'r gymuned.

 

Sut mae gwneud sylwadau am gais cynllunio?

Gellir gwneud sylwadau ar-lein, chwiliwch am y cais perthnasol yn Cynllunio - Chwiliad Syml, ac yna cliciwch ar y tab 'Make a comment'.

Bydd sylwadau a gyflwynir fel hyn yn cael eu cydnabod yn awtomatig a gallwch fonitro diweddariadau am y cais trwy ein system Mynediad Cyhoeddus.

 

Pa mor hir sydd gennyf i wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio?

Yr amser statudol a roddir i gymdogion wneud sylwadau ar gais yw 21 diwrnod (fel arfer nodir y dyddiad cychwyn ar hysbysiad safle). Mae'n bwysig iawn rhoi sylw i unrhyw ddyddiad cau, neu efallai na fydd eich sylwadau'n cael eu hystyried.

 

A fydd fy sylwadau yn cael eu cydnabod?

Mae sylwadau yn cael eu cydnabod gan y Gwasanaeth Cynllunio. Sylwch, oherwydd nifer y sylwadau a dderbynnir, ni fydd yn bosibl ymateb i sylwadau a chwestiynau unigol yn ymwneud â chais. Ond bydd sylwadau'n cael eu cymryd i ystyriaeth gan y Swyddog Achos a neilltuwyd ac yn cael sylw yn adroddiadau'r swyddogion achos a gyhoeddir ar wefan y cyngor unwaith y penderfynir ar y cais.

 

A fyddaf yn cael gwybod am benderfyniad am gais?

Gallwch fonitro cynnydd cais trwy ein gwefan. Defnyddiwch yr eicon 'track' sydd i'w gael pan fyddwch chi'n edrych ar gais, a fydd wedyn yn caniatáu ichi dderbyn hysbysiadau ar y cais.

 

Rwy'n cael trafferth gweld cais - allwch chi helpu?

Os ydych chi'n cael trafferth gweld ffeiliau'r cais, neu os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, cysylltwch â'r Swyddfa Gynllunio gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

 

Cyfamodau:

Mewn rhai achosion, efallai y bydd cyfamod ar y tir neu'r adeilad sy'n cyfyngu ar ei ddefnydd yn y dyfodol. Mae hon yn drefn gyfreithiol ar wahân i gynllunio. Nid yw bodolaeth unrhyw ganiatâd cynllunio yn dileu'r mater cyfreithiol hwn, ac mewn rhai achosion efallai na fydd modd gweithredu caniatâd cynllunio heb ddileu'r cyfamod.

 

Sut y gallaf ganfod mwy am hanes cynllunio safle?

Gallwch chwilio am hanes safle drwy ddefnyddio'r  botwm 'Chwilio am Geisiadau Cynllunio ar y wefan Cynllunio. Ond mae'r drefn chwilio hon wedi'i chyfyngu i geisiadau cynllunio mwy diweddar.

 

Sut gallaf gael gafael ar wybodaeth am gynllunio?

Mae'r dolenni canlynol yn rhoi gwybodaeth am nifer o bynciau cynllunio allweddol: