Cynnal is-etholiad cyngor sir
![Image of County Hall](/image/8764/Image-of-County-Hall/standard.jpg?m=1543917286087)
17 Hydref 2023
![Image of County Hall](/image/8764/Image-of-County-Hall/gi-responsive__100.jpg?m=1543917286087)
Bydd yr isetholiad yn cael ei gynnal i lenwi un sedd wag yn dilyn ymddiswyddiad Anita Cartwright yn gynharach y mis hwn (Hydref).
Mae'r hysbysiad etholiad wedi'i gyhoeddi ar gyfer yr isetholiad ac mae gan unrhyw un sy'n ystyried sefyll fel ymgeisydd hyd 4pm ddydd Iau, 26 Hydref i gyflwyno ei bapur enwebu i'r Swyddog Canlyniadau.
Os bydd etholiad yn cael ei gynnal, bydd hynny'n digwydd ddydd Mercher 22 Tachwedd 2023.
Mae gan unrhyw un sydd heb gofrestru i bleidleisio hyd ddydd Llun, 6 Tachwedd 2023 i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad hwn. I gofrestru i bleidleisio ewch i www.gov.uk/registertovote.
Dylai etholwyr sylwi bod yn rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy'r post neu geisiadau i newid neu ganslo cais presennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Llandrindod erbyn 5pm ddydd Mawrth, 7 Tachwedd 2023.
Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Llandrindod erbyn 5pm ddydd Mawrth, 14 Tachwedd 2023. Gellir dod o hyd i wybodaeth am geisiadau trwy ddirprwy yn Etholiadau a phleidleisio
Am ragor o wybodaeth ewch i Gwybodaeth am etholiadau sydd ar y gorwel