Ysgol G.G. Dyffryn Irfon
Mae Cyngor Sir Powys wedi cynnal y broses statudol ar gynnig i gau Ysgol Gynradd Gymunedol Dyffryn Irfon.
Cyhoeddwyd Rhybudd Statudol mewn perthynas â'r cynnig hwn ar 2 Chwefror 2024, a daeth y Cyfnod Gwrthwynebu i ben ar 1 Mawrth 2024.
Ni dderbyniwyd unrhyw Wrthwynebiadau yn ystod y Cyfnod Gwrthwynebu.
Ar 19 Mawrth 2024, fe wnaeth Cabinet y Cyngor gytuno i fwrw ymlaen efo'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Gymunedol Dyffryn Irfon o 31 Awst 2024, gyda disgyblion i drosglwyddo i'w hysgolion eraill agosaf.
Mae llythyr yn amlinellu penderfyniad y Cabinet ar gael isod:
Dilynwch ni ymlaen: Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma