Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Wythnosau olaf casglu gwastraff o'r ardd yn 2023

Image of someone raking autumn leaves

6 Tachwedd 2023

Image of someone raking autumn leaves
Dyma atgoffa trigolion a'r rhai sydd wedi cofrestru i gasglu gwastraff o'r ardd mai dim ond rhai wythnosau sydd ar ôl eleni i gasglu eich gwastraff.

I weld pryd mae'r dyddiadau casglu nesaf, edrychwch ar sticer aelodaeth 2023 sydd ar eich bin gwyrdd, neu ewch i: Diwrnod casglu biniau 

Bydd modd tanysgrifio ar gyfer gwasanaeth 2024 eto ym mis Ionawr, gyda'r gwasanaeth yn ailgychwyn ar ddiwedd mis Chwefror 2024.

Dywed y Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Mae gerddi pawb â naws hydrefol iddynt bellach, ac maent yn wlyb ar hyn o bryd, ond ni fydd hynny'n ein hatal rhag eu tacluso ar ôl yr haf, a pharatoi at y gwanwyn.

"Gan gofio hynny, hoffem atgoffa pawb i fanteisio i'r eithaf ar y casgliadau o wastraff garddio sy'n weddill nawr ar gyfer 2023.

"Hyd yma eleni, gyda help aelwydydd sydd wedi cofrestru, rydym wedi casglu miloedd o dunelli o wastraff o'r ardd a'i ailgychu'n gompost.

"Gyda'r gaeaf ar ein gwarthaf a'r gwastraff o'r ardd yn lleihau, mae'r gwasanaeth yn cymryd egwyl dros y gaeaf, ond gallwch barhau i ailgylchu eich gwastraff trwy ei droi'n gompost eich hun neu fynd ag ef i un o'n canolfannau gwastraff ac ailgylchu ym Mhowys."

Er bod canolfan gwastraff cartrefi ac ailgylchu Aberhonddu ar gau er mwyn cyflawni gwaith ailwampio (sy'n cychwyn ar 20 Tachwedd), gallwch fynd â gwastraff gerddi i hen safle Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Penlan, oddi ar Heol Cerrigcochion, ar fore Llun, Mawrth, Mercher a Sadwrn (9am-1pm).

Am fwy o wybodaeth ar y gwasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff o'r ardd, ewch i: Casglu gwastraff o'r ardd