Casgliadau ailgylchu a gwastraff y Nadolig 2023
6 Rhagfyr 2023
Bydd ein criwiau gwastraff ac ailgylchu yn treulio gwyliau banc y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd gyda'u ffrindiau a'u teuluoedd, sy'n golygu y bydd y dyddiau casglu arferol yn newid.
Ni fydd unrhyw gasgliadau ar ddydd Nadolig nac ar Ŵyl San Steffan. Bydd casgliadau a drefnwyd yn digwydd ddeuddydd yn hwyrach na'r arfer o ddydd Mercher 27 Rhagfyr. Os yw eich diwrnod casglu arferol ddydd Iau 28 Rhagfyr neu ddydd Gwener 29 Rhagfyr, a'ch bod i fod i gael gwagio eich bin olwynion (neu sachau porffor), byddwn yn anelu at wneud hynny ddydd Sadwrn 30 Rhagfyr a dydd Sul 31 Rhagfyr yn y drefn honno. Ni chaiff eich ailgylchu ei gasglu tan yr wythnos ganlynol (pan fyddwn yn derbyn dwbl/ mwy ohono).
Ni fydd unrhyw gasgliadau chwaith ar Ddydd Calan. Os yw eich diwrnod casglu arferol ddydd Llun 1 Ionawr, a'ch bod chi i fod i gael eich bin olwynion (neu sachau porffor) wedi eu gwagio, byddwch yn anelu at wneud hynny ddydd Mawrth 2 Ionawr. Ni chaiff eich ailgylchu ei gasglu tan yr wythnos ganlynol (pan fyddwn yn derbyn dwbl/mwy ohono). Ni fydd unrhyw newidiadau i gasgliadau eraill yr wythnos hon.
Wythnos y Nadolig
Diwrnod casglu arferol Diwrnod casglu ailgylchu a gynllunnir Casgliad a gynllunnir ar gyfer bin olwynion / bag porffor
Dydd Llun 25 Rhagfyr Dydd Mercher 27 Rhagfyr Dydd Mercher 27 Rhagfyr
Dydd Mawrth 26 Rhagfyr Dydd Iau 28 Rhagfyr Dydd Iau 28 Rhagfyr
Dydd Mercher 27 Rhagfyr Dydd Gwener 29 Rhagfyr Dydd Gwener 29 Rhagfyr
Dydd Iau 28 Rhagfyr Dydd Iau 4 Ionawr (byddwn ni'n casglu dwbl/mwy o ailgylchu*) Dydd Sadwrn 30 Rhagfyr
Dydd Gwener 29 Rhagfyr Dydd Gwener 5 Ionawr (byddwn ni'n casglu dwbl/mwy o ailgylchu*) Dydd Sul 31 Rhagfyr
Wythnos y Flwyddyn Newydd
Diwrnod casglu arferol Diwrnod casglu ailgylchu a gynllunnir Casgliad a gynllunnir ar gyfer bin olwynion / bag porffor
Dydd Llun 1 Ionawr Dydd Llun 8 Ionawr (byddwn ni'n casglu dwbl/mwy o ailgylchu*) Dydd Mawrth 2 Ionawr
Dydd Mawrth 2 Ionawr Dim newid Dim newid
Dydd Mercher 3 Ionawr Dim newid Dim newid
Dydd Iau 4 Ionawr Dim newid Dim newid
Dydd Gwener 5 Ionawr Dim newid Dim newid
* Byddwn ni'n casglu dwbl / mwy o ailgylchu gyda'r casgliadau hyn. Sicrhewch fod eitemau ychwanegol nad ydynt yn ffitio yn eich cynwysyddion ailgylchu yn cael eu didoli yn y ffordd arferol (caniau, plastigau a chartonau / papur a chardfwrdd / gwydr), ac yn cael eu dodi mewn bagiau plastig/papur i'w gadael wrth ymyl eich blychau ailgylchu.
Byddwn ni'n ymdrechu i gwblhau'r holl gasgliadau, yn ôl y cynllun, fodd bynnag, os nad yw eich casgliad wedi digwydd erbyn 5pm, gwiriwch ar-lein am ddiweddariad: Diwrnod casglu biniau. Ddydd Iau 28 a Dydd Gwener 29 Rhagfyr byddwn yn anelu at gasglu dwbl y cyfanswm o ailgylchu. Os na fyddwn yn gallu cwblhau'r rowndiau yn ôl y cynllun, gadewch eich blychau allan a byddwn yn anelu at eu casglu dros y penwythnos.
Bydd pob Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi ar gau ar Ddiwrnod Nadolig (25 Rhagfyr), Gŵyl San Steffan (26 Rhagfyr) a Dydd Calan (1Ionawr). Bydd canolfannau ar agor yn ôl eu harfer ar adegau eraill. Gwiriwch ar-lein am fanylion llawn yr oriau agor arferol. Cofiwch fod Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Aberhonddu yn cael ei hailwampio ar hyn o bryd ac ar gau ac ni fydd y trefniadau amgen ar gael ar gyfer gwastraff gwyrdd dros wyliau'r banc.
"Mae casgliadau wedi cael eu trefnu drwy gydol cyfnod yr ŵyl, ac rydym ni'n annog cartrefi i ddefnyddio'r gwasanaeth a lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gymaint ag y gallant o wastraff eu cartrefi." Esbonia'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.
"Mae pawb yn cynhyrchu mwy o wastraff nag arfer dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ond mae'n bosibl ailgylchu'r rhan fwyaf ohono. Ffoil, bwyd, jariau a photeli gwydr, coed Nadolig go iawn, cardiau a phapur lapio 'Dolig plaen, batris, potiau a photeli plastig. Gallwn ni i gyd wneud ein rhan i wneud yn siŵr fod gymaint ag sy'n bosibl yn cael ei ailgylchu."
Gwiriwch ein gwefan a chadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am unrhyw newid i'r gwasanaeth sy'n angenrheidiol yn sigl tywydd gaeafol eithafol neu unrhyw amgylchiadau na ragwelwyd.
Defnyddiwch y ddolen hon i wirio eich diwrnod casglu biniau diwygiedig dros yr ŵyl: (Diwrnod casglu biniau).