Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am yr her ariannol

The Financial Situation
Close Carwsél oriel ddelwedd

Mae Cyngor Sir Powys yn rhagweld diffyg mewn ariannu. Mae hyn yn seiliedig ar ddadansoddiad ariannol cenedlaethol, sef mwy na £9.6 miliwn ar gyfer y flwyddyn gyllidebol gyfredol gyda'r ffigwr hwnnw'n codi i £50.9 miliwn neu fwy dros y pedair blynedd nesaf.

Mae hyn yn gadael bwlch sylweddol yn ein cyllid sydd ar gael ac yn golygu na allwn fforddio parhau i ddarparu ein gwasanaethau yn yr un modd. 

Mewn blynyddoedd blaenorol rydym wedi edrych ar ein gwasanaethau i ddod yn fwy effeithlon. Er bod newidiadau wedi'u gwneud, nid yw'r dull hwn yn gynaliadwy yn y tymor hir ac mae angen i ni nawr fod yn fwy radical a newid ein dull. 

Pa wasanaethau a ddarperir gan Gyngor Sir Powys ar hyn o bryd a beth mae hyn yn ei gostio?

Mae'r Cyngor yn darparu cannoedd o wasanaethau ar draws y sir. O gynnal a chadw ffyrdd, gwastraff ac ailgylchu, addysgu dysgwyr, ceisiadau cynllunio a llawer iawn mwy. Gallwch gael gwybod mwy, gan gynnwys graffeg ar ein gwariant presennol fesul gwasanaeth, drwy ymweld â: Sut rydym yn gwario ein harian

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu