Agor ymgynghoriad am drefniadau derbyn i ysgolion
29 Ionawr 2024
Mae'r cyngor yn ymgynghori am Drefniadau a Gwybodaeth Derbyniadau ar gyfer 2025/26 i'r Blynyddoedd Cynnar ac ysgolion Cynradd ac Uwchradd yn unol â Chod Derbyniadau Llywodraeth Cymru.
Mae'r ymgynghoriad trefniadau derbyn hefyd yn cynnwys mapiau dalgylch, a gafodd eu hardystio gan Gabinet y cyngor y llynedd. Maen nhw'n dynodi'r ysgol gynradd agosaf at gyfeiriad y cartref a'r ysgol uwchradd yn y dalgylch.
Caiff y mapiau hyn eu defnyddio gan y cyngor wrth ddynodi lleoedd mewn ysgol sydd wedi gor-danysgrifio. Bydd y cyngor hefyd yn defnyddio'r mapiau hyn wrth ystyried ceisiadau o dan bolisi trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae'r llyfryn Gwybodaeth a Threfniadau Derbyniadau yn ddogfen bwysig i rieni pan ddaw'r amser iddynt wneud cais am le un ai mewn lleoliad blynyddoedd cynnar, ysgol gynradd neu ysgol uwchradd i'w plentyn.
"Mae'r llyfryn yn diffinio sut fydd y cyngor yn cymhwyso ei drefniadau derbyn wrth ystyried ceisiadau.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n ceisio cael safbwyntiau pobl sy'n byw yn y sir am y trefniadau derbyn ar gyfer 2025/26 a'r map dalgylch fel bod eu safbwyntiau'n cael eu hystyried cyn bod y dogfennau hyn yn cael eu paratoi'n derfynol."
Bydd yr ymgynghoriad am drefniant derbyniadau yn cau ddydd Gwener, 1 Mawrth, 2024.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau hyn, ewch i Ymgynghoriad Cyhoeddus ar drefniadau derbyn mapiau dalgylchoedd ysgolion.