Swyddogion cyswllt i gefnogi adfywio trefi
7 Chwefror 2024
Dyrannwyd trefi i bob swyddog cyswllt, naill ai yng ngogledd orllewin, gogledd ddwyrain, canol, de orllewin neu dde ddwyrain Powys a'u tasg yw cynghori a helpu cynghorau tref, busnesau, elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol i gynllunio, cyflenwi a monitro prosiectau ym maes datblygu economaidd.
Mae'r Swyddogion Cyswllt Canol Trefi yn rhan o Dîm Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Sir Powys a chawsant eu croesawu i'w swyddi gan y Cyng. David Selby, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus.
Dywedodd: "Byddant yn rhoi cyngor ar weithredu cynlluniau tref ac yn helpu adnabod prosiectau a mentrau a all gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y cymunedau maent yn eu cefnogi.
"Hefyd, byddant yn cydweithio, fel yr awgryma teitl eu swyddi, gyda sefydliadau a seilir yn y trefi ac adrannau eraill yn y cyngor sir ac unrhyw ymgynghorwyr sy'n cael eu hurio i ddrafftio, datblygu neu adolygu cynlluniau.
"Hefyd bydd y Swyddogion Cyswllt yn cynnig cyngor o ran lle y gellir cael mynediad at gymorth ar gyfer prosiectau."
Mae'r Swyddogion newydd fel a ganlyn:
- Bobby Gough - Y Drenewydd, Llanidloes a Machynlleth. Manylion cyswllt: regeneration@powys.gov.uk.
- Philip Jones - Y Trallwng, Llanfair Caereinion, Llanfyllin a Threfaldwyn. Manylion cyswllt: regeneration@powys.gov.uk.
- Richard Morgan - Llandrindod, Tref-y-clawdd, Llanandras a Rhaeadr Gwy. Manylion cyswllt: regeneration@powys.gov.uk.
- Rhys Howells - Ystradgynlais, Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd. Manylion cyswllt: regeneration@powys.gov.uk.
- Ayden Davies - Crughywel, Y Gelli Gandryll a Thalgarth. Manylion cyswllt: regeneration@powys.gov.uk.
Mae eu swyddi'n cael eu cyllido gan Lywodraeth y DU hyd at ddiwedd 2024, fel rhan o raglen y Gronfa Ffyniant Bro.
Ceir rhagor o wybodaeth ar waith Ffyniant Bro yma: https://levellingup.campaign.gov.uk/
Un o'r ffynonellau cyllid y gall sefydliadau gael eu hatgyfeirio atynt yw Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi, cyllid sy'n dod gan Lywodraeth Cymru.
Gellir defnyddio'r arian yma i dalu costau cyfalaf er mwyn creu rhagor o gartrefi, eiddo masnachol a gwelliannau i ffryntiau siopau yng nghanol ein trefi, seilwaith gwyrdd a digidol, mannau cyhoeddus bach a gwelliannau i gyfleusterau masnachu awyr agored, prynu eiddo strategol, cefnogaeth ar gyfer stondinwyr marchnadoedd, cerddwyr a beicwyr, prosiectau dros dro, a darparu rhagor o gyfleusterau hamdden a thoiledau.
Mae'r rhaglen Trawsnewid Trefi'n darparu £7 miliwn ar gyfer prosiectau adfywio ym Mhowys a Cheredigion dros gyfnod o dair blynedd.
Ceir rhagor o wybodaeth am grantiau Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi yma: https://www.tyfuymmhowys.com/trawsnewid-trefi
LLUN: Y Cyng. David Selby, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus yn croesawu'r pum Swyddog Cyswllt Canol Trefi newydd: Bobby Gough, Philip Jones, Richard Morgan, Rhys Howells ac Ayden Davies i'w swyddi.