Cabinet i ystyried adroddiad gwrthwynebiadau Ysgol Llangedwyn
21 Chwefror 2024
Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig cau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn a'r mis diwethaf (mis Ionawr) cyhoeddwyd hysbysiad statudol ffurfiol sy'n cynnig y newid.
Yn ystod y cyfnod rhybudd statudol, derbyniwyd 16 gwrthwynebiad.
Ddydd Mawrth, 27 Chwefror, bydd y Cabinet yn derbyn ac yn ystyried yr adroddiad gwrthwynebiadau, a bydd yn derbyn cais i gymeradwyo'r cynnig i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn o 31 Awst 2024, gyda'r disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain.
Dywed y Cyng. Pete Roberts, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau'n ofalus, yr argymhelliad fydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet yw cymeradwyo'r cynnig i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn.
Byddai'r cynnig yn mynd i'r afael â'r broblem o ran niferoedd isel yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn a byddai hefyd yn lleihau capasiti lleoedd gwag y cyngor mewn ysgolion cynradd."
I ddarllen Strategaeth y cyngor ar Drawsnewid Addysg 2020-2032 ac i weld manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg