Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog ar Ddyletswydd

Bydd y swyddog cynllunio ar ddyletswydd yn cynnig cyngor cynllunio cyffredinol a chymorth am ddim.

Bydd y cyngor yma'n cyfeirio ac yn llywio galwyr at y polisi/deddfwriaeth cynllunio perthnasol ac at weithdrefnau'r Gwasanaethau Cynllunio. Bydd hyn yn ategu'r wybodaeth sydd ar gael ar wefan y Cyngor Cynllunio gan gynnwys y Cwestiynau Cyffredin Cwestiynau Cyffredin.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael dros y ffôn o ddydd Llun - Gwener (ac eithrio gwyliau banc) rhwng 10am - 12pm a 2pm - 4pm. Noder: mae'r swyddog ar ddyletswydd ar gael yn unig rhwng 2pm - 4pm ar ddydd Mawrth.

Byddy swyddog ar ddyletswydd yn gallu cynorthwyo gyda:

  • Chyngor anffurfiol ar ymholiadau o ran datblygiadau a ganiateir a chyngor cynllunio cyffredinol. Noder taw cyngor anffurfiol fydd hyn, ac fe'i rhoddir heb ragfarn o ran unrhyw benderfyniad a wneir yn y dyfodol mewn perthynas â chais cynllunio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Os hoffech dderbyn ymateb ysgrifenedig ffurfiol, bydd gofyn ichi ymgeisio ar gyfer Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon neu gyflwyno ymholiad cyn cyflwyno cais cynllunio.
  • Y weithdrefn o ran prosesu cais cynllunio ar ôl ei ddilysu.
  • Cyngor o ran sut i gyflwyno cwyn honedig o ran gorfodi cynllunio i'w archwilio.

Ni fyddy swyddog ar ddyletswydd yn gallu:

  • Rhoi cyngor cyn ymgeisio ar gyfer cynnig prosiect penodol.  Mae'n rhaid i'r fath ymholiadau ddefnyddio'r gwasanaethau Gwneud cais am ganiatâd cynllunio a/neu Cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio sydd ar gael ar wefan y Cyngor.
  • Trafod rhinweddau technegol cais cynllunio byw, cais a benderfynwyd, apêl cynllunio neu achos gorfodi cynllunio. Ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio, caiff galwyr eu cyfeirio at y sefyllfa ddiweddaraf sydd i'w gweld ar wefan porth cynllunio'r Cyngor Chwiliad Syml (powys.gov.uk). Dylai ymgeiswyr gysylltu â'u hasiant cynllunio dynodedig yn y lle cyntaf, neu'r swyddog cynllunio perthnasol.  
  • Adolygu cynlluniau neu rinweddau cais cynllunio neu a yw datblygiad yn cydymffurfio â sêl bendith cynllunio.
  • Darparu gwybodaeth mewn perthynas â draenio, perchnogaeth tir neu leoliadau ffiniau.
  • Cynorthwyo gyda chwiliadau personol.
  • Rhoi cyngor ar faterion cynllunio yn ardal Bannau Brycheiniog.

Swyddogion cynllunio'r Gwasanaeth Cynllunio sy'n cyflawni rôl y Swyddog Cynllunio ar Ddyletswydd, gan gynnwys swyddogion cynllunio a gorfodi. Noder y bydd unrhyw gyngor a roddir yn gyngor anffurfiol, ac fe'i rhoddir heb ragfarn mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad a wneir yn y dyfodol gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

Rhif ffôn y Swyddog Cynllunio ar Ddyletswydd yw: 01597 826000.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu