Cabinet i ystyried adroddiad gwrthwynebiad Ysgol Dyffryn Irfon
13 Mawrth 2024
Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig cau Ysgol Gynradd Gymunedol Dyffryn Irfon; a'r mis diwethaf (mis Chwefror), cyhoeddwyd hysbysiad statudol yn cynnig y newid yn ffurfiol.
Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod hysbysiad statudol.
Gan nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi cael eu derbyn, caiff ei argymell fod y cyngor yn mynd rhagddo gyda'r gweithrediad o gau Ysgol Gynradd Gymunedol Dyffryn Irfon o 31 Awst 2024, gan drosglwyddo'r disgyblion i'r ysgolion eraill sydd agosaf atynt.
Bydd y Cabinet yn ystyried yr argymhelliad ddydd Mawrth 19 Mawrth.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Sy'n Dysgu: "Gan nad oes unrhyw wrthwynebiadau wedi cael eu derbyn, bydd Cabinet yn ystyried yr argymhelliad i gymeradwyo'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Gymunedol Dyffryn Irfon.
"Mae'r gostyngiad mewn niferoedd o ddisgyblion wedi effeithio ar gynaliadwyedd addysgiadol ac ariannol yr ysgol, ac mae angen mynd i'r afael â hynny.
"Byddai'r cynnig yn mynd i'r afael â'r broblem o niferoedd isel o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Dyffryn Irfon. Byddai hefyd yn lleihau'r capasiti dros ben cyffredinol sydd gan y cyngor mewn ysgolion cynradd gan ddarparu arbediad refeniw i'r cyngor."
I ddarllen Strategaeth y cyngor ar Drawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg