Toglo gwelededd dewislen symudol

Cabinet i ystyried adroddiad gwrthwynebiad Ysgol Dyffryn Irfon

Image of a primary school classroom

13 Mawrth 2024

Image of a primary school classroom
Mae'n bosibl y gallai ysgol gynradd fach yn Ne Powys gau yn ddiweddarach eleni os fydd Cabinet yn penderfynu ar hynny yr wythnos nesaf, dywedodd y cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig cau Ysgol Gynradd Gymunedol Dyffryn Irfon; a'r mis diwethaf (mis Chwefror), cyhoeddwyd hysbysiad statudol yn cynnig y newid yn ffurfiol.

Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod hysbysiad statudol.

Gan nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi cael eu derbyn, caiff ei argymell fod y cyngor yn mynd rhagddo gyda'r gweithrediad o gau Ysgol Gynradd Gymunedol Dyffryn Irfon o 31 Awst 2024, gan drosglwyddo'r disgyblion i'r ysgolion eraill sydd agosaf atynt.

Bydd y Cabinet yn ystyried yr argymhelliad ddydd Mawrth 19 Mawrth.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Sy'n Dysgu: "Gan nad oes unrhyw wrthwynebiadau wedi cael eu derbyn, bydd Cabinet yn ystyried yr argymhelliad i gymeradwyo'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Gymunedol Dyffryn Irfon.

"Mae'r gostyngiad mewn niferoedd o ddisgyblion wedi effeithio ar gynaliadwyedd addysgiadol ac ariannol yr ysgol, ac mae angen mynd i'r afael â hynny.

"Byddai'r cynnig yn mynd i'r afael â'r broblem o niferoedd isel o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Dyffryn Irfon. Byddai hefyd yn lleihau'r capasiti dros ben cyffredinol sydd gan y cyngor mewn ysgolion cynradd gan ddarparu arbediad refeniw i'r cyngor."

I ddarllen Strategaeth y cyngor ar Drawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i  Trawsnewid Addysg

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu