Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwybodaeth am y Fframwaith Diogelu Newydd

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi lansio fframwaith hyfforddi a safonau diogelu newydd.

Ry'n ni wedi comisiynu hyfforddiant i fodloni'r gofynion gan ddechrau ym mis Mai 2024.

Argymhellir eich bod yn cwblhau'r e-ddysgu ( corfforaethol ) ar-lein Grŵp A ac yna symud ymlaen i hyfforddiant ar Grŵp B, yna Grŵp C, os yw'n berthnasol Grŵp D, i gyrraedd y lefel yr ydych yn ei gyfrannu o fewn eich rôl gwaith at ddiogelu.

Grŵp A (ymwybyddiaeth sylfaenol)

Yr holl staff sy'n gweithio o fewn: gofal cymdeithasol, gofal iechyd, adrannau awdurdod lleol, heddlu, addysg, blynyddoedd cynnar, y trydydd sector a'r sector gwirfoddol (gan gynnwys gwirfoddolwyr) a chontractwyr annibynnol (gwasanaethau a gomisiynir).

Bydd rhaid i ymarferydd grŵp A newydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu cyn iddyn nhw gychwyn eu rôl, neu fel rhan o'u cynefino.

Mae'r modiwl e-ddysgu ar gael bob amser, trwy E-ddysgu Corfforaethol

Os ydyn nhw'n gweithio yn grŵp A, bydd rhaid iddyn nhw adnewyddu eu dysgu:

  • O leiaf un i dair awr bob tair blynedd
  • Yn fwy aml os yw'n ofynnol gan eu rheolwr neu asiantaeth.

E-ddysgu trwy hyfforddiant Corfforaethol - uchafswm o ddwy awr.

Grŵp B (cyfryngwr)

Yr holl ymarferwyr sydd â chysylltiad rheolaidd gydag oedolion, plant, ac aelodau o'r cyhoedd yn eu rolau. Mae hyn yn cynnwys ymarferwyr sydd wedi'u cofrestru neu reoleiddio ai beidio, a gwirfoddolwyr.

Lleiafswm o chwe awr o hyfforddiant sy'n ymdrin â'r deilliannau dysgutrwy ddiwrnod llawn o hyfforddiant Grŵp B - wedi'i ddarparu gan hyfforddiant JMG - Keith Jones yn archebu o fis Mai 2024.

Dylai gweithwyr newydd heb unrhyw hyfforddiant diogelu blaenorol gael hyfforddiant yn ystod y pythefnos neu'r pedair wythnos gyntaf o gyflogaeth neu wirfoddoli, neu o leiaf o fewn cyfnod prawf rôl newydd (chwe mis).

Efallai y bydd hyfforddiant ychwanegol hefyd ar bynciau penodol i'r rôl.

Dylai hyfforddiant, dysgu a datblygu gloywi fod yn:

  • Lleiafswm o chwe awr yn barhaus dros gyfnod o dair blynedd.

Grŵp C (uwch)

Ymarferwyr cofrestredig neu reoledig gyda rôl asesu, cynllunio, ymyrryd, a gwerthuso. Bydd ganddynt rôl cynllunio amddiffyn clir (grŵp craidd, cynhadledd achos, mynychwyr cyfarfodydd strategaeth) a bydd ganddynt swyddogaeth statudol.

Rhaid i ymarferwyr Grŵp C gwneud:

  • Lleiafswm o wyth awr o hyfforddiant o fewn y cyfnod prawf rôl newydd, ynghyd â hyfforddiant ar bynciau diogelu sy'n benodol i'r rôl,trwy New Pathways - 2 diwrnod hyfforddiant llawn - a ddarperir mewn sesiynau ½ diwrnod. Cyrsiau ar wahân i Blant neu Oedolion, yn dibynnu ar eich parth gwaith.
  • Cael hyfforddiant gloywi ar hyfforddiant generig (o leiaf wyth awr bob tair blynedd)
  • Gwneud o leiaf 18 awr (chwe awr y flwyddyn) o hyfforddiant ychwanegol, gan gynnwys hyfforddiant manwl ar bynciau penodol diogelu neu brosesau mewnol.
  • Gwneud hyfforddiant ychwanegol sy'n berthnasol i rolau a dyletswyddau penodol, a ddylai:
  • adlewyrchu unrhyw newidiadau i arferion a chymhwysiad
  • cynnwys hyfforddiant y mae angen ei wneud yn gynt na thair blynedd (er enghraifft: dulliau diagnostig newydd mewn meysydd gofal iechyd).

Grŵp D (arbenigol)

Rolau sydd â chyfrifoldebau diogelu plant a/neu oedolion penodol, megis arweinwyr diogelu a gweithwyr proffesiynol a enwir.

Mae angen i ddatblygiad proffesiynol fod wedi dechrau fel rhan o'r cyfnod cynefino, neu cyn gynted â phosibl ar ôl dechrau yn y swydd. Bydd datblygiad proffesiynol, a gwella, dysgu ac ennill mwy o ddealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd, yn ofyniad parhaus

Lleiafswm o wyth awr o hyfforddiant o fewn y cyfnod prawf y rôl newydd, ynghyd â hyfforddiant ar bynciau diogelu sy'n benodol i'r rôl.

Mae hyn yn cynnwys: ystafell ddosbarth rhithwir, darllen cyn y cwrs, dilyn i fyny gyda'r rheolwr neu oruchwyliwr, atgyfnerthu ar ôl y cwrs, lle mae ymarferwyr yn rhoi'r dysgu ar waith.

Bydd ymarferwyr yn cwblhau lleiafswm o 24 awr o hyfforddiant gloywi ym mhob cyfnod tair blynedd.

Bydd hyfforddiant a ddarperir gan Bond Solon Grŵp D (arbenigwr) yn cynnwys 6 awr, diwrnod llawn o hyfforddiant arbenigol.

Gellir cyrchu hyfforddiant arall er mwyn cwblhau'r 24 awr angenrheidiol dros y tair blynedd.  

E.e. Chwilfrydedd proffesiynol, Camfanteisio ar Blant (Cymuned Ymarfer), Fforymau Diogelu, Sgiliau Cadeirio Diogelu.

Grŵp E (ymgynghoriaeth neu arweinydd sector)

Arweinwyr Strategol

Penderfynwyr

Mae ymarferwyr sydd newydd eu penodi yng ngrŵp E yn cwblhau lleiafswm o oriau o hyfforddiant, dysgu a datblygiad diogelu yn eu chwe mis cyntaf. Gellir cytuno ar yr hyfforddiant hwn rhwng yr ymarferydd a'i reolwr llinell. Bydd ymarferwyr yn cwblhau o leiaf 24 awr o hyfforddiant gloywi ym mhob cyfnod o dair blynedd.

Dylai ymarferwyr gadw cofnod DPP ffurfiol o gyfleoedd dysgu y tu allan i hyfforddiant rhithwir neu yn yr ystafell ddosbarth (Er enghraifft: mynd i gyfarfodydd strategol)

Grŵp F (arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus)

Angen cwblhau grŵp A - ymwybyddiaeth generig a hyfforddiant pwrpasol perthnasol, dysgu a datblygu fel rhianta corfforaethol, ond gellir galw arno i drafod materion neu faterion mewn grwpiau A i E.

Mae angen i ymarferwyr grŵp F sydd newydd eu penodi cwblhau e-ddysgu grŵp A cyn dechrau gweithio, yn y cyfnod cynefino neu eu chwe mis cyntaf.

Mae angen i ymarferwyr Grŵp F cwblhau E-ddysgu grŵp A trwy Hyfforddiant Corfforaethol ac ailymweld a'r hyfforddiant, dysgu a datblygiad adnewyddu pwrpasol perthnasol am o leiaf chwe awr bob tair blynedd.

Dolenni ar gyfer darllen pellach :-

Cymru - Fideo lansio

Lansiad y Fframwaith hyfforddiant, dysgu a... | Gofal Cymdeithasol Cymru

Fframwaith newydd ar gyfer hyfforddiant mewn Diogelu

https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/diogelu-rhestr/fframwaith-hyfforddi-dysgu-a-datblygu-diogelu-cenedlaethol

Safonau i gyd-fynd â'r fframwaith

https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/diogelu-rhestr/safonau-hyfforddiant-dysgu-a-datblygu-cenedlaethol

 

Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.

Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau