Gwybodaeth am y Fframwaith Diogelu Newydd
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi lansio fframwaith hyfforddi a safonau diogelu newydd.
Ry'n ni wedi comisiynu hyfforddiant i fodloni'r gofynion gan ddechrau ym mis Mai 2024.
Argymhellir eich bod yn cwblhau'r e-ddysgu ( corfforaethol ) ar-lein Grŵp A ac yna symud ymlaen i hyfforddiant ar Grŵp B, yna Grŵp C, os yw'n berthnasol Grŵp D, i gyrraedd y lefel yr ydych yn ei gyfrannu o fewn eich rôl gwaith at ddiogelu.
Grŵp A (ymwybyddiaeth sylfaenol)
Yr holl staff sy'n gweithio o fewn: gofal cymdeithasol, gofal iechyd, adrannau awdurdod lleol, heddlu, addysg, blynyddoedd cynnar, y trydydd sector a'r sector gwirfoddol (gan gynnwys gwirfoddolwyr) a chontractwyr annibynnol (gwasanaethau a gomisiynir).
Bydd rhaid i ymarferydd grŵp A newydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu cyn iddyn nhw gychwyn eu rôl, neu fel rhan o'u cynefino.
Mae'r modiwl e-ddysgu ar gael bob amser, trwy E-ddysgu Corfforaethol
Os ydyn nhw'n gweithio yn grŵp A, bydd rhaid iddyn nhw adnewyddu eu dysgu:
- O leiaf un i dair awr bob tair blynedd
- Yn fwy aml os yw'n ofynnol gan eu rheolwr neu asiantaeth.
E-ddysgu trwy hyfforddiant Corfforaethol - uchafswm o ddwy awr.
Grŵp B (cyfryngwr)
Yr holl ymarferwyr sydd â chysylltiad rheolaidd gydag oedolion, plant, ac aelodau o'r cyhoedd yn eu rolau. Mae hyn yn cynnwys ymarferwyr sydd wedi'u cofrestru neu reoleiddio ai beidio, a gwirfoddolwyr.
Lleiafswm o chwe awr o hyfforddiant sy'n ymdrin â'r deilliannau dysgutrwy ddiwrnod llawn o hyfforddiant Grŵp B - wedi'i ddarparu gan hyfforddiant JMG - Keith Jones yn archebu o fis Mai 2024.
Dylai gweithwyr newydd heb unrhyw hyfforddiant diogelu blaenorol gael hyfforddiant yn ystod y pythefnos neu'r pedair wythnos gyntaf o gyflogaeth neu wirfoddoli, neu o leiaf o fewn cyfnod prawf rôl newydd (chwe mis).
Efallai y bydd hyfforddiant ychwanegol hefyd ar bynciau penodol i'r rôl.
Dylai hyfforddiant, dysgu a datblygu gloywi fod yn:
- Lleiafswm o chwe awr yn barhaus dros gyfnod o dair blynedd.
Grŵp C (uwch)
Ymarferwyr cofrestredig neu reoledig gyda rôl asesu, cynllunio, ymyrryd, a gwerthuso. Bydd ganddynt rôl cynllunio amddiffyn clir (grŵp craidd, cynhadledd achos, mynychwyr cyfarfodydd strategaeth) a bydd ganddynt swyddogaeth statudol.
Rhaid i ymarferwyr Grŵp C gwneud:
- Lleiafswm o wyth awr o hyfforddiant o fewn y cyfnod prawf rôl newydd, ynghyd â hyfforddiant ar bynciau diogelu sy'n benodol i'r rôl,trwy New Pathways - 2 diwrnod hyfforddiant llawn - a ddarperir mewn sesiynau ½ diwrnod. Cyrsiau ar wahân i Blant neu Oedolion, yn dibynnu ar eich parth gwaith.
- Cael hyfforddiant gloywi ar hyfforddiant generig (o leiaf wyth awr bob tair blynedd)
- Gwneud o leiaf 18 awr (chwe awr y flwyddyn) o hyfforddiant ychwanegol, gan gynnwys hyfforddiant manwl ar bynciau penodol diogelu neu brosesau mewnol.
- Gwneud hyfforddiant ychwanegol sy'n berthnasol i rolau a dyletswyddau penodol, a ddylai:
- adlewyrchu unrhyw newidiadau i arferion a chymhwysiad
- cynnwys hyfforddiant y mae angen ei wneud yn gynt na thair blynedd (er enghraifft: dulliau diagnostig newydd mewn meysydd gofal iechyd).
Grŵp D (arbenigol)
Rolau sydd â chyfrifoldebau diogelu plant a/neu oedolion penodol, megis arweinwyr diogelu a gweithwyr proffesiynol a enwir.
Mae angen i ddatblygiad proffesiynol fod wedi dechrau fel rhan o'r cyfnod cynefino, neu cyn gynted â phosibl ar ôl dechrau yn y swydd. Bydd datblygiad proffesiynol, a gwella, dysgu ac ennill mwy o ddealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd, yn ofyniad parhaus
Lleiafswm o wyth awr o hyfforddiant o fewn y cyfnod prawf y rôl newydd, ynghyd â hyfforddiant ar bynciau diogelu sy'n benodol i'r rôl.
Mae hyn yn cynnwys: ystafell ddosbarth rhithwir, darllen cyn y cwrs, dilyn i fyny gyda'r rheolwr neu oruchwyliwr, atgyfnerthu ar ôl y cwrs, lle mae ymarferwyr yn rhoi'r dysgu ar waith.
Bydd ymarferwyr yn cwblhau lleiafswm o 24 awr o hyfforddiant gloywi ym mhob cyfnod tair blynedd.
Bydd hyfforddiant a ddarperir gan Bond Solon Grŵp D (arbenigwr) yn cynnwys 6 awr, diwrnod llawn o hyfforddiant arbenigol.
Gellir cyrchu hyfforddiant arall er mwyn cwblhau'r 24 awr angenrheidiol dros y tair blynedd.
E.e. Chwilfrydedd proffesiynol, Camfanteisio ar Blant (Cymuned Ymarfer), Fforymau Diogelu, Sgiliau Cadeirio Diogelu.
Grŵp E (ymgynghoriaeth neu arweinydd sector)
Arweinwyr Strategol
Penderfynwyr
Mae ymarferwyr sydd newydd eu penodi yng ngrŵp E yn cwblhau lleiafswm o oriau o hyfforddiant, dysgu a datblygiad diogelu yn eu chwe mis cyntaf. Gellir cytuno ar yr hyfforddiant hwn rhwng yr ymarferydd a'i reolwr llinell. Bydd ymarferwyr yn cwblhau o leiaf 24 awr o hyfforddiant gloywi ym mhob cyfnod o dair blynedd.
Dylai ymarferwyr gadw cofnod DPP ffurfiol o gyfleoedd dysgu y tu allan i hyfforddiant rhithwir neu yn yr ystafell ddosbarth (Er enghraifft: mynd i gyfarfodydd strategol)
Grŵp F (arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus)
Angen cwblhau grŵp A - ymwybyddiaeth generig a hyfforddiant pwrpasol perthnasol, dysgu a datblygu fel rhianta corfforaethol, ond gellir galw arno i drafod materion neu faterion mewn grwpiau A i E.
Mae angen i ymarferwyr grŵp F sydd newydd eu penodi cwblhau e-ddysgu grŵp A cyn dechrau gweithio, yn y cyfnod cynefino neu eu chwe mis cyntaf.
Mae angen i ymarferwyr Grŵp F cwblhau E-ddysgu grŵp A trwy Hyfforddiant Corfforaethol ac ailymweld a'r hyfforddiant, dysgu a datblygiad adnewyddu pwrpasol perthnasol am o leiaf chwe awr bob tair blynedd.
Dolenni ar gyfer darllen pellach :-
Cymru - Fideo lansio
Lansiad y Fframwaith hyfforddiant, dysgu a... | Gofal Cymdeithasol Cymru
Fframwaith newydd ar gyfer hyfforddiant mewn Diogelu
Safonau i gyd-fynd â'r fframwaith
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau